24 Ionawr

Ar y diwrnod yma ym 1973, chwaraeodd Lloegr eu gêm cyntaf yn Wembley yng Nghwpan y Byd ers codi’r tlws yn yr un stadiwm ym 1966 … a Cymru oedd y gwrthwynebwyr.

Roedd y ddwy wlad wedi dod allan o’r het yn yr un grŵp ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 1974 yng Nghorllewin yr Almaen.

Ar ol colli yng ngêm agoriadol Grŵp 5 yn erbyn y Saeson ar Barc Ninian, Caerdydd ym mis Tachwedd 1972, roedd Cymru yn gobeithio talu’r pwyth yn ôl wrth ymweld â Wembley.

Dim ond Bobby Moore, Colin Bell, Alan Ball a Norman Hunter oedd ar ôl yn nhîm Lloegr o’r tîm chwaraeodd ng Nhwpan y Byd 1970 ym Mecsico wrth i Loegr geisio ailadeiladu.

Ac roedd yn edrych yn addawol iawn i’r Cymry pan roddodd John Toshack dîm Dave Bowen ar y blaen wedi 23 munud ond methodd yr ymwelwyr a dal ymlaen wrth i Norman Hunter ddod â Lloegr yn gyfartal tri munud cyn yr egwyl.

Ond llwyddodd amddiffyn Cymru i aros yn gadarn trwy gydol yr ail hanner er mwyn osgoi colli yn Wembley am yr ail dro yn unig yn eu hanes.

Er trechu Gwlad Pwyl, y trydydd tîm yng Ngrŵp 5, ar Barc Ninian, roedd colli 3-0 yn Chorzow yn golygu fod Cymru’n gorffen ar waelod y grŵp.

 

    Ch E Cyf C + Pt
1. Gwlad Pwyl 4 2 1 1 6 3 5
2. Lloegr 4 1 2 1 3 4 4
3. Cymru 4 1 1 2 3 5 3