26 Ionawr

Ar y diwrnod yma ym 1963, ganed un o’r rheolwyr pêl-droed mwyaf llwyddiannus erioed yn ninas Setubal, ger Lisbon.

Jose Mario dos Santos Felix Mourinho oedd y bachgen hwnnw, fyddai’n dod yn fyd-enwog fel rheolwr Porto, Chelsea, Internazional a Real Madrid.

Yn fab i gôl-geidwad enillodd gap dros Bortiwgal, roedd hi’n amlwg o oedran ifanc nad oedd gan Jose’r talentau i fod yn chwaraewr proffesiynol, felly canolbwyntiodd ar ddysgu sgiliau’r byd hyfforddi.

Ar ôl cyfnod fel athro chwaraeon a hyfforddwr ieuenctid gyda’r tîm lleol yn Setubal, daeth cyfle Mourinho gyda chlwb mawr fel cyfieithydd i ddechrau yna is-reolwr i Bobby Robson yn Sporting, Porto a Barcelona.

Gweithiodd Mourinho dan adain Louis van Gaal yn Barca cyn cael ei gyfle fel rheolwr gyda Benfica ac Uniao de Leiria ond pan y penodwyd yn reolwr Porto yn Ionawr 2002 y dechreuodd rediad anhygoel o lwyddiant i Mourinho.

Yn ei dymor cyntaf llawn wrth y llyw, cipiodd drebl o Gynghrair a Chwpan Portiwgal a Chwpan UEFA cyn cadw gafael ar y dlws y gynghrair a mynd cam yn well ar y llwyfan Ewropeaidd ac ennill Cynghrair y Pencampwyr yn 2004.

O fewn dyddiau i ddathlu’r fuddugoliaeth dros Monaco’n y rownd derfynol, penodwyd Mourinho yn reolwr ar Chelsea, gan gyhoeddi’n ei gynhadledd gyntaf i’r wasg ei fod yn ‘Special One’, llysenw fyddai’n aros gyda Mourinho drwy gydol ei gyfnod yn Llundain.

Roedd Mourinho fel chwa o awyr iach yn Uwch Gynghrair Lloegr gan lenwi nid colofnau ond tudalennau o’r papurau newydd ond erbyn diwedd y tymor doedd dim dadlau gyda’i lwyddiannau – Chelsea’n ennill eu pencampwriaeth gyntaf ers hanner canrif gan dorri record nifer buddugoliaethau, pwyntiau ac ildio goliau’r Uwch Gynghrair.

Enillodd Uwch Gynghrair Lloegr am yr eilwaith yn 2005/06 ond ar ôl methu ennill tlws y gynghrair am y tro cyntaf mewn pum mlynedd y tymor canlynol a dechrau simsan i dymor 2007/08, diswyddwyd Mourinho ym mis Medi 2007.

Doedd hi ddim yn hir cyn i Mourinho gael swydd arall ac ym mis Mehefin 2008, penodwyd yn olynydd i Roberto Mancini gyda Internazionale.

Enillodd Inter Serie A yn gyfforddus yn ei dymor cyntaf wrth y llyw cyn i’r Nerazzurri greu hanes yn 2009/10 gan ennill trebl unigryw y Coppa Italia, Serie A a Chynghrair y Pencampwyr, a Mourinho’i hun ymuno â Ernst Happel ac Ottmar Hitzfeld fel yr unig reolwyr i ennill Cynghrair y Pencampwyr gyda dau glwb gwahanol.

Efallai ei bod hi’n anorfod y byddai’r rheolwr enwocaf yn y byd yn rheoli clwb y Galacticos ac ymunodd Mourinho â Real Madrid yr haf diwethaf i geisio herio tîm gorchestol Barcelona Pep Guardiola.