14 Mai

Ar y diwrnod yma yn 2002 sgoriodd Robert Earnshaw unig gôl y gêm ar ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf wrth i Gymru drechu’r Almaen.

Roedd Earnie eisoes wedi disgleirio i’r tîm dan-21 ond roedd ei berfformiadau i Gaerdydd wedi dal sylw’r rheolwr cenedlaethol, Mark Hughes.

A gwnaeth ei farc o fewn 12 eiliad i’r ail hanner wrth iddo gasglu peniad John Hartson cyn rhwydo heibio i Oliver Kahn.

Er gwaetha’r ffaith fod Yr Almaen heb chwaraewyr Bayer Leverkusen, oedd yn herio Real Madrid yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr y noson ganlynol, roedd disgwyl i’w carfan gref fod yn ormod i Gymru.

Wedi’r golled yng Nghaerdydd roedd nifer o’r gwybodusion yn credu bod Cwpan y Byd 2002 yn Siapan a De Corea yn mynd i fod yn un hynod o siomedig i’r Almaenwyr.

Ond llwyddodd Yr Almaen i gyrraedd y rownd derfynol yn Yokohama, Siapan cyn colli i Frasil.


Cymru: M Crossley; M Delaney, G Speed, A Melville, R Page, M Pembridge, R Savage, R Earnshaw, S Davies, R Giggs, J Hartson.

Eilyddion: D Coyne, D Barnard, G Taylor, P Evans, C Coleman, R Weston, S Jenkins.

Yr Almaen: O Kahn; J Heinrich, C Metzdeler, T Linke, C Ziege, T Frings, S Deisler, D Hamman, J Jeremies, M Bode, O Bierhoff.

Eilyddion: J Lehmann, C Jancker, G Asamoah, S Kehl, Ernst, M Bode, O Bierofka, Freier, Rahn, Schindzielorz, Borowski.