15 Mai

Ar y diwrnod yma yn 2010 bu farw ymosodwr Abertawe, Besian Idrizaj, yn frawychus o ifanc.

Bu farw’r chwaraewr 22-mlwydd-oed yn ei gwsg yn ei gartref yn Awstria yn dilyn trawiad ar ei galon.

Roedd Idrizaj, oedd o dras Albaniaidd, wedi ennill 12 cap i dîm dan-21 Awstria ac wedi ei wobrwyo’n chwaraewr y flwyddyn yn Awstria cyn ymuno â Lerpwl yn 2005.

Ond wedi methu a gwenud ei farc gyda’r Cochion cafodd gyfnodau ar fenthyg â Luton Town a Crystal Palace cyn dychwelyd i Awstria a Wacker Innsbruck ym mis Ionawr 2008.

Tra’n chwarae i Wacker cwympodd yn ddisymwth ar y maes yng nghanol gêm yn erbyn Sturm Graz, ond wedi profion meddygol cafodd ganiatad i barhau â’i yrfa pêl-droed.

Dechreuodd yn ôl â chlwb FC Eilenburg yn is-adranau cynghrair Awstria cyn i reolwr Abertawe, Paulo Sousa, ei arwyddo ym is Awst 2009.

Chwaraeodd dair gêm i’r Swans yn ystod tymor 2009/10 wrth i’r clwb ddod o fewn trwch blewyn i gyrraedd y gemau ail gyfle, a pythefnos wedi diwedd y tymor, daeth y newyddion erchyll ei fod wedi marw yn ei gwsg.

Mae Abertawe wedi cyhoeddi na fydd y clwb byth yn defnyddio’r crys rhif 40 eto fel arwydd o barch i’r chwaraewr.