17 Mai

Ar y diwrnod yma ym 1980 llwyddodd Cymru i faeddu Lloegr 4-1 ar Y Cae Ras, Wrecsam yng ngêm cyntaf Mike England wrth y llyw.

Roedd Lloegr wedi gwneud chwe newid o’r tîm drechodd Pencampwyr y Byd, Yr Ariannin, bedair diwrnod ynghynt yn Wembley – arwydd clir fod y diwedd yn agosau i Bencampwriaeth y Pedair Gwlad.

Cafodd Kevin Keegan a Tony Woodcock ddychwelyd i’w clybiau yn Yr Almaen tra bo Nottingham Forest, oedd yn paratoi i wynebu Hamburg yn rownd derfynol Cwpan Ewrop, wedi galw ar bron i pob un o’u chwaraewyr nhw yn ôl i’r City Ground – cafodd Larry Lloyd ganiatâd i ennill ei bedwaredd cap dros Loegr.

Ond byddai canolbwyntio’n ormodol ar broblemau Lloegr yn cysgodi un o berfformiadau gorau yn hanes pêl-droed rhyngwladol Cymru.

Gyda David Giles, Paul Price a Keith Pontin yn ennill eu capiau cyntaf a chyda Leighton James wedi ei alw yn ôl i’r garfan am y tro cyntaf ers bron i ddwy flynedd, chwalwyd amddiffyn Lloegr yn deilchion.

Er gwaethaf gôl gynnar ffodus i Loegr gan Paul Mariner tarodd Cymru’n ôl â goliau gan Mickey Thomas, Ian Walsh a Leighton James cyn i Phil Thompson droi’r bêl i’w rwyd ei hun i gwblhau’r grasfa.

Roedd y rheolwr newydd ar ben ei ddigon wedi’r gêm gan ddatgan: "’Da ni am adael i Loegr a’r Alban frwydro am y llwy bren y Sadwrn nesaf."

Ond yn anffodus i Gymru, wedi dechrau’r ymgyrch mor dda, roedd dwy golled yn erbyn Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn y ddwy gêm nesaf yn golygu mai gwahaniaeth goliau’n unig welodd Cymru’n osgoi casglu’r llwy bren eu hunian … ‘dyw rhai pethau ddim yn newid!