20 Mai

Ar y diwrnod yma ym 1992 chwalwyd Cymru o 5-1 yng ngêm agoriadol grŵp rhagbrofol Cwpan y Byd 1994.

Wrth feddwl yn ôl at ba mor agos y daeth Cymru at fynd i Gwpan y Byd yn America, mae’n syndod cofio fod tîm Terry Yorath wedi dioddef crasfa go iawn yn eu gêm gyntaf yng Ngrŵp 4 yn erbyn Romania yn Bucharest.

Y capten, a seren Real Madrid, Gheorge Hagi, roddodd Romania ar y blaen wedi dim ond pum munud ac fe aeth pethau o ddrwg i waeth i Gymru ddau funud yn ddiweddarach wrth i Ioan Lupescu rwydo ail gôl.

Roedd y tîm cartref, oedd wedi rhwydo saith gôl yn erbyn ynysoedd Faroe pythefnos ynghynt, ar dân, dim ond mater o amser oedd hi cyn iddyn nhw rwydo trydedd gôl, a chwaraewr canol cae Bayer Leverkusen, Lupescu, oedd yno unwaith eto i droi’r bêl heibio i Neville Southall.

Ychwanegodd Gavril Balint bedwaredd i Romania cyn i Hagi fachu ei ail gôl o’r prynhawn, a phumed Romani, 10 munud cyn yr egwyl.

Gôl gysur yn unig oedd gôl Ian Rush yn yr ail hanner wrth i dîm Cornel Dinu ddysgu gwers go iawn i Gymru.

Dyma oedd y nifer fwyaf o goliau i Neville Southall ildio mewn 58 gêm rhyngwladol dros Gymru … tan iddo ildio pum gôl yn erbyn Georgia ym 1994, saith yn erbyn Yr Iseldiroedd ym 1996 a chwe gôl yn ei ymddangosiad olaf dros Gymru yn erbyn Twrci ym 1997.


Romania: Bogdan Stelea, Dan Petrescu, Gheorghe Mihali, Miodrag Belodedici, Dorinel Munteanu, Ioan Sabău (Ion Timofte 78′), Gheorghe Popescu, Ioan Lupescu, Gheorghe Hagi (Gábor Gerstenmájer 71′), Marius Lăcătuş, Gavril Balint.

Cymru: Neville Southall, Dave Phillips, Mark Aizlewood, Andy Melville, Dean Saunders, Barry Horne, Mark Hughes, Gary Speed,Mark Bowen (Clayton Blackmore 79′), Mark Pembridge (Ryan Giggs 57′), Ian Rush.