21 Mai

Ar y diwrnod yma yn 2006 cafodd Gymru gêm gyfeillgar â thîm Gwlad y Basg yn Bilbao.

Er nad yw Cymdeithas Bêl-droed Gwlad y Basg (Euskadiko Futbol Federakundea) yn cael ei chydnabod gan Fifa nac Uefa, mae’r tîm wedi bod yn chwarae gemau ers 1915 pan drechwyd tîm Catalonia 6-1 yn y San Mamés, cartref Athletic Bilbao.

Yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen, teithiodd yr Euskadi XI o amgylch Ewrop a De America yn chwarae gemau er mwyn arianu gwrthryfelwyr Gwlad y Basg yn erbyn byddinoedd Franco.

Chwaraewyd nifer o gemau yn erbyn timau o wledydd Comiwnyddol dwyrain Ewrop oedd yn cydymdeimlo gyda’r frwydr yn erbyn byddinoedd ffasaidd Cadfridog Franco a chafwyd sawl gêm yn erbyn timau oedd â thraddodiad gwleidyddol adain chwith, timau fel Racing o Ffrainc.

Ym 1938 cafodd yr alltudion wahoddiad i ymuno â Chynghrair Mecsico ac i gwblhau’r stori dylwyth teg, llwyddodd y Basgwyr i ddod yn bencampwyr Mecsico ym 1938!

Wedi i’r rhyfle cartref ddod i ben gyda buddugoliaeth i’r unben, Franco, sathrwyd ar hunaniaeth pobl Gwlad y Basg, Catalonia a rhanbarthau ymreolaethol eraill Sbaen.

Ym 1979, pediar mlynedd wedi marwolaeth Franco, chwaraeodd Euskadi eu gêm gyntaf ers 1938 gan drechu Gweriniaeth Iwerddon 4-1 yn Bilbao.

Roedd Cymru wedi teithio i herio’r Basgwyr gan fod gan y rheolwr ar y pryd, John Toshack, gysylltiadau cryf gyda’r ardal yn dilyn ei gyfnod fel rheolwr Real Sociedad yn ninas Donostia.

Ryan Giggs gafodd unig gôl y gêm er mwyn sicrhau buddugoliaeth i Gymru, ac yn rhyfedd ddigon, dyma oedd y tro cyntaf i seren Manchester United ymddangos i Gymru mewn gêm gyfeillgar oddi cartref … ond yn anffodus i Giggs, ni roddwyd unrhyw gapiau i’r Cymry am gymryd rhan yn y gêm.


Euskadi: Inaki Lafuente (Bilbao), Edu Alonso (Alaves), Aitor Lopez Rekarte (Sociedad), Ivan Campo (Bolton), Mikel Labaka (Sociedad), Patxi Punal (Osasuna), Xabi Prieto (Sociedad), Julen Guerrero (Bilbao, capt), Joseba Etxeberria (Bilbao), Mikel Alonso (Sociedad), Igor Gabilondo (Sociedad).

Eilyddion: Asier Riesgo (Sociedad), Josu Sarriegi (Alaves), Inaki Munoz (Osasuna), Javi Garrido (Sociedad), Fernando Llorente (Bilbao).

Cymru: Paul Jones (QPR), Joe Ledley (Caerdydd), Lewin Nyatanga (Derby), Danny Gabbidon (West Ham), James Collins (West Ham), Carl Robinson (Norwich), Carl Fletcher (West Ham), Craig Bellamy (Blackburn), Rob Earnshaw (Norwich), Simon Davies (Everton), Ryan Giggs (Man Utd, capt).

Eilyddion: David Partridge (Bristol City), Andrew Crofts (Gillingham), David Vaughan (Crewe), David Cotterill (Bristol City), Gareth Bale (Southampton), Craig Davies (Verona), Lewis Price (Ipswich).

Dyfarnwr: Eduardo Iturralde Gonzalez (Sbaen).