22 Mai

Ar y diwrnod yma ym 1966 chwaraeodd un o gewri pêl-droed Cymru ei gêm olaf dros Gymru.

Daeth Ivor Allchurch â’i yrfa rhyngwladol i ben wrth ennill ei 68fed cap mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Chile yn Santiago – cyfanswm oedd yn record am y nifer fwyaf o gapiau dros Gymru.

Roedd Cymru ar daith i Dde America er mwyn herio Brasil ddwywaith a Chile mewn gemau cyfeillgar wrth i’r gwledydd baratoi ar gfer Cwpan y Byd 1966 yn Lloegr.

Parhaodd record Allchurch am y nifer fwyaf o gapiau hyd at 1986 pan lwyddodd Joey Jones i ennill ei 69fed cap ac, er gwaetha’r ffaith fod Cymru’n chwarae llawer mwy o gemau erbyn heddiw nac yn y 1950au a 1960au, mae Allchurch yn parhau i fod ymysg y deg uchaf ar y rhestr o gapiau Cymru.

Yn ogystal â’r record am y nifer fwayf o gapiau, roedd Allchurch yn gyfartal gyda Trevor Ford am y nifer fwyaf o goliau dros Gymru hefyd wedi i’r ddau rwydo 23 gôl.

A pharhaodd y record yma tan 1992 pan rwydodd Ian Rush hatric yn erbyn Ynysoedd Faroe er mwyn dod yn gyfartal, ac yna thorri’r, record.

Er gwaethaf ymdrechion Dean Saunders, orffennodd un gôl yn brin o gyfanswm Allchurch a Ford, a Craig Bellamy, sydd bum gôl yn brin o 23 gôl – mae’r ddau yn parhau i fod yn ail ar restr prif sgorwyr Cymru.