18 Mawrth

Ar y diwrnod yma yn 1981 roedd Casnewydd yn croesawu Carl Zeiss Jena i’r dref yn rownd wyth olaf Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop.

Roedd County, o dan reolaeth Len Ashurst, wedi maeddu Crusaders o Ogledd Iwerddon yn ogystal â’r Norwyaid o Haugar yn y rowndiau agoriadol.

Yn rhyfedd ddigon, Carl Zeiss Jena oedd gwrthwynebwyr cyntaf unrhyw glwb Cymreig pan chwaraeon nhw Abertawe ym 1961 o dan yr enw SC Motor Jena.

Ac roedd eu record Ewropeaidd yn un trawiadol wedi iddyn nhw gyrraedd rownd yr wyth olaf o Gwpan Ewrop ym 1970/71 a Chwpan Uefa ym 1977/78 a churo West Bromwich Albion yng Nghwpan Uefa’r tymor blaenorol.

Ond roedd ’na obeithion uchel yng Nghasnewydd yn dilyn gêm gyfartal 2-2 yng Ngorllewin yr Almaen diolch i ddwy gôl gan Tommy Tynan.

Roedd John Aldridge, gollodd y cymal cyntaf oherwydd anaf, yn parhau i fod ar goll felly dechreuodd County y gêm gyda’r un XI chwaraeodd yn Jena.

Ac er bod ganddyn nhw fantais o ddwy gôl oddi cartref, County oedd yn ymosod am y rhan helaeth o’r gêm o flaen torf anferth ar Barc Sommerton, ac mae’n deg dweud mai golwr Jena oedd y dyn prysuraf ar y maes!

Ond seliwyd y fuddugoliaeth i’r ymwelwyr yn erbyn llif y chwarae pan darodd capten Jena, Lothar Kurbjuweit, gic rydd heibio i golwr Casnewydd, Gary Plumley.

Aeth Carl Zeiss Jena ymlaen i drechu Benfica yn y rownd gyn derfynol cyn colli yn erbyn Dynamo Tbilisi yn y rownd derfynol yn Dussedlorf.

Yn anffodus i gefnogwyr Casnewydd, dyma oedd eu hantur Ewropeaidd cyntaf … ac olaf.


Casnewydd: Plumley, Walden, Davies, Oakes, Relish, Lowndes, Elsey, Vaughan, Tynan, Gwyther, Moore.

Carl Zeiss Jena: Grapenthin, Brauer, Schilling, Burrow (Krause), Kurbjuweit, Schnuphase, Overmann, Sengewald, Beilau, Raab, Vogel.

Dyfarnwr: H Lund-Sorensen (Denmarc)

Torf: 18,000