5 Mawrth

Ar y diwrnod yma ym 1877, chwaraewyd gêm rhyngwladol am y tro cyntaf ar dir Cymru wrth i Gymru herio’r Alban ar y Cae Ras yn Wrecsam.

Mae hyn yn golygu mai’r Cae Ras yw’r stadiwm rhyngwladol hynaf yn y byd sydd yn dal i gael ei ddefnyddio hyd heddiw.

Ond er gwaetha’r achlysur, colli oedd hanes Cymru o flaen torf o 4,000 mil, diolch i gôl gan gapten yr Albanwyr, Charles Campbell wedi 55 o funudau, ac yna gôl i’w rwyd ei hun gan yr amddiffynwr William Addams Williams Evans, 20 munud yn ddiweddarach.

Hon oedd yr ail gêm i Gymru chwarae, wedi i Samuel Llewelyn Kenrick, un o sefydlwyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, hysbysebu am chwaraewyr yng nghylchrgrawn The Field.

Er nnill dau gap dros ei wlad yn y ddwy gêm hanesyddol yma, trodd Williams Evans ei gefn ar bêl-droed er mwyn cychwyn ar yrfa hir fel gweinidog o fewn yr Eglwys yn Lloegr.

Yn ôl y dyfarnwr, Mr William A. Dick, oedd hefyd yn ysgrifennydd ar Gymdeithas Bêl-droed yr Alban, chwaraewr o’r enw ‘Powell’ oedd wedi troi’r bêl i’w rwyd ei hun …  er nad oedd yr un Powell yng ngharfan Cymru!

Cymru: Thomas Blundell Burnett (Rhiwabon),  William Addams Williams Evans (Prifysgol Rhydychen),  Samuel Llewelyn Kenrick (Derwyddon/Crwydriaid Sir Amwythig), John Richard Morgan (Prifysgol Caergrawnt),  Edwin Alfred Cross (Wrecsam), William Henry Davies (Croesoswallt), Alfred Davies (Wrecsam), Henry Price (Wrecsam),  Alexander Fletcher Jones (Prifysgol Rhydychen), John Hughes (Prifysgol Rhydychen), George Frederick Thomson (Derwyddon).

Yr Alban: Alexander McGeoch (Dumbreck),  Robert W. Neill (Queen’s Park), Thomas C. Vallance (Rangers),  James Phillips (Queen’s Park), Charles Campbell (Queen’s Park),  John Smith (Mauchline), John C. McGregor (Vale of Leven), John Ferguson (Vale of Leven), John McDougall (Vale of Leven), Henry McNiel (Queen’s Park), John Hunter (3rd Lanark Rifle Volunteers).