14 Medi

Ar y diwrnod yma ym 1972 symudodd Wyn Davies o Manchester City i Manchester United – y chwaraewr cyntaf i symud ar draws y ddinas ers 41 mlynedd.

Dechreuodd Davies ei yrfa gyda’i chlwb ei dref enedigol, Caernarfon, cyn denu sylw clybiau fel Aston Villa a Manchester United, ond i Wrecsam aeth Davies am £500 ym 1960.

Gwnaeth y Cymro ei farc ar y Cae Ras wrth sgorio 22 gôl mewn 55 ymddangosiad a chyn pen dim roedd wedi arwyddo â Bolton Wanderers am £22,000.

Ond yng ngogledd ddwyrain Lloegr y gwnaeth Davies ei enw. Ar ôl ymuno â Newcastle United ym 1966 daeth yn un o ffefrynau selogion y Gallowgate.

Beth bynnag ei ddiffygion gyda’i ddwy droed, roedd ei allu yn yr awyr yn chwedlonol a chafodd y llusenw Wyn the Leap gan gefnogwyr y Magpies.

Llwyddodd i ennill Cwpan Fairs Uefa ym 1969 gyda Newcastle United wrth iddyn nhw drechu Újpest o Hwngari 6-2 dros ddwy gymal.

Tra bo Davies yn cael ei gofio fel aelod allweddol o dîm Newcastle, mae pobl yn tueddu i anghofio fod ’na Gymro arall yn nhîm y Magpies yn y rownd derfynol hefyd, sef Ollie Burton o Cas-gwent!

Wedi colli ei le yn nhîm Newcastle i Malcolm MacDonald, symudodd Davies yn ôl i Sir Gaerhirfryn gan ymuno â Manchester City ym 1971 a daeth o fewn trwch blewyn i gipio Pencampwriaeth Cynghrair Lloegr yn ei dymor cyntaf wrth i City orffen pwynt tu ôl i Derby County ar ôl arwain y ffordd am y rhan fwyaf o’r tymor.

Tymor yn unig dreuliodd Davies ym Maine Road gan iddo golli ei le i Rodney Marsh a symudodd ar draws y ddinas i Old Trafford – y Cymro cyntaf i wneud hynny ers Billy Meredith ym 1906!

Enillodd 34 cap dros Gymru rhwng 1964 a 1974 gan rwydo 6 gôl.