15 Medi

Ar y diwrnod yma ym 1982 llwyddodd Abertawe i greu record newydd am y nifer fwyaf o goliau mewn gêm wrth chwalu Sliema Wanderers o Melita 12-0.

Roedd y Swans, o dan reolaeth John Toshack, eisoes wedi trechu Sporting Braga o Bortiwgal yn rownd rhagbrofol Cwpan Ennillwyr Cwpanau Cymru cyn wynebu Sliema – tîm gollodd yn erbyn Borough United yn yr un gystadleuaeth ym 1963.

Er nad oedd record y gwŷr o Melita yn wych yng nghystadlaethau Ewrop, dim ond 0-2 a 0-1 oedd Sliema wedi colli yn erbyn Barcelona dau dymor ynghynt.

Ond diflanodd unrhyw obaith o sioc i’r ymwelwyr yn y cymal cyntaf ar Y Vetch pan rwydodd Jeremy Charles wedi chwarter awr i roi’r Swans ar y blaen.

Ychwanegodd Stuart Loveridge, Colin Irwin a Bob Latchford gôl yr un cyn yr egwyl i’w gwneud hi’n 4-0 a dechreuodd y gohebwyr papur newydd bori trwy’r llyfrau hanes dros baned hanner amser!

Cafodd Dzemal Hadziabdic gôl wedi awr o chwarae ac ail gôl yr un i Loveridge a Charles cyn i’r eilydd, Ian Walsh, rwydo hat-tric mewn 11 munud a sicrhau bod y Swans yn gwella ar eu buddugoliaeth orau o 8-0 yn erbyn Hartlepool.

Cwblhawyd y grasfa a goliau i Nigel Stevenson ac Ante Rajkovic i fawr foddhad y 5,130 o dorf oedd wedo dod i’r Vetch.

Cafwyd pum gôl arall yn yr ail gymal draw ym Melita, gan gynnwys un i’r chwaraewr reolwr, Toshack, er mwyn cwblhau sgôr digon parchus o 17-0 dros ddau gymal!