16 Medi

Ar y diwrnod yma ym 1987 llwyddodd Merthyr Tydful i greu mymryn o hanes Ewropeaidd wrth drechu Eidalwyr Atalanta ar Barc Penydarren.

Roedd y tîm rhan amser o Gynghrair y Beazer Homes wedi curo Casnewydd y tymor blaenorol er mwyn codi Cwpan Cymru er mwyn sicrhau eu lle yng Nghwpan Ennillwyr Cwpanau Cymru.

A phan ddaeth yr y Merthyron allan o’r het i wynebu Atalanta o Bergamo yn Yr Eidal roedd ’na gryn edrych ymlaen yn y dref.

Cynhaliwyd cystadleuaeth gwisgo ffenestri siopa’r dref a chafwyd fflagiau’r Eidal ar hyd a lled y strydoedd fel rhan o wythnos Eidalaidd ym Merthyr!

Er gwaetha’r ffaith eu bod yn Serie B ac yn Ewrop oherwydd eu bod wedi colli yn rownd derfynol y Coppa Italia i’r pencampwyr, Napoli, roedd Atalanta’n her a hanner i’r Merthyron.

Roedd sylw’r byd pêl-droed ar Ferthyr yn yr wythnos oedd yn arwain at y gêm gyda Ceri Williams yn ymddangos ar raglen boblogaidd ITV, Saint and Greavsie (efallai bydd angen i ddarllenwyr iau ofyn i’w rhieni am y rhaglen yma!) tra’n gosod tarmac ar rodfa ym Merthyr! 

A chyda torf o 8,000 – wel, dyna oedd y ffigwr swyddogol! – wedi gwasgu mewn i Barc Penydarren cafwyd noson bythgofiadwy o dan y llifoleadau.

Mae’n annhebygol fod chwaraewyr Atalanta, oedd yn cynnwys yr athrylithgar Glenn Stromberg o Sweden, erioed wedi chwarae mewn stadiwm tebyg i Barc Penydarren ac o flaen torf mor angerddol, torf aeth hyd yn oed yn fwy gwyllt ar ôl i Kevin Rogers roi’r Merthyron ar y blaen wedi 34 munud!

Cafwyd taw ar y dorf am ychydig funudau cyn yr egwyl wedi i Domenico Progna ddod â’r ymwelwyr yn gyfartal, ond doedd dim modd cadw cefnogwyr Merthyr yn dawel am yn hir ar noson mor hanesyddol i’r clwb.

Gwrthododd tîm Lyn Jones ag ildio a chyda thri munud yn weddill dangosodd Williams fod ei ddoniau pêl-droed cystal â’i ddoniau tarmacio pan rwydodd gôl i sicrhau buddugoliaeth wych 2-1 dros y Nerazzurri.