18 Medi

Ar y diwrnod yma ym 1993 chwaraeodd Cwmbran yn erbyn Cork City yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop – y clwb cyntaf o Gymru i chwarae ym mhrif gystadleuaeth clybiau Ewrop.

Roedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gwneud cais i Uefa i sicrhau fod pencampwyr cyntaf Cynghrair Cymru yn cael cystadlu yng Nghwpan y Pencampwyr ac, wedi’r holl ddadlau a checru ynghylch sefydlu’r gynghrair yn y lle cyntaf, roedd ’na ryddhad mawr pan gafodd Cwmbran wahoddiad i gystadlu.

Roedd y Brain o dan reolaeth Tony Wilcox, wedi ennill y gynghrair yn gymharol rhwydd gan golli dim ond tair gêm trwy gydol y tymor ac wedi gorffen pedwar pwynt ar y blaen i Inter Caerdydd, oedd yn ail.

Ond un peth yw cael y fraint i gystadlu yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop – peth arall ydi synnu’r gwrthwynebwyr â thair gôl yn yr hanner cyntaf!

A dyna’n union wnaeth Cwmbran yn erbyn pencampwyr Iwerddon, Cork City yn Stadiwm Cwmbran.

Llwyddodd Simon King i dorri ei enw yn y llyfrau hanes wrth sgorio’r gôl gyntaf – cic o’r smotyn wedi dim ond tri munud roddodd y tîm cartref ar y blaen.

A chyffrowyd yr 8,000 o dorf yng Nghwmbran ymhellach pan rwydodd Francis Ford ddwy gôl arall i roi’r tîm cartref 3-0 ar y blaen ar yr egwyl.

Ond yn anffodus i dîm rhan amser Cwmbran, tarodd y Gwyddelod yn ôl wedi’r egwyl â goliau gan John Caulfield ac Anthony Buckley.

A bu rhaid diolch i’w golwr, Pat O’Hagan, na lwyddodd y Gwyddelod i rwydo mwy o goliau wrth i’r tîm cartref flino.

Pythefnos yn ddiweddarach llwyddodd Phil McNeil i roi Cwmbran ar y blaen yn gynnar yn y gêm yn ninas Cork, ond methodd y Cymry a manteisio unwaith eto.

Bachodd Cork ddwy gôl i ennill 2-1 ar y noson a chamu ymlaen i herio Galatasary o Dwrci diolch i’r rheol goliau oddi cartref.


Cwmbran v Cork City: O’Hagan, Burrows, Blackie, Copeman, King, Parselle (Payne, 75), Goodridge, Dicks (McNeil, 80), Wharton, Ford, Powell.