7 Mehefin

Ar y diwrnod yma ym 1992 chwaraeodd Cymru gêm yn erbyn Siapan am y tro cyntaf, ac, ar hyn o bryd, yr unig dro.

Roedd Cymru, o dan ofal Terry Yorath, wedi dod o fewn trwch blewyn i gyrraedd Pencampwriaethau Ewrop yn Sweden gan orffen bwynt tu ôl i’r Almaen yn eu grŵp rhagbrofol.

Ac roedd eu perfformiadau yn ystod yr ymgyrch, wedi denu sylw Cymdeithas Bêl-droed Siapan gan arwain at wahoddiad i ymuno â’r tîm cartref, Siapan, a’r Ariannin yng Nghwpan Kirin ar ddiwedd tymor 1992.

Mae’r gystadleuaeth, sydd wedi ei noddi gan Fragdy Kirin, wedi ei chynnal yn flynyddol ers 1978, ond ers 1992 dim ond timau rhyngwladol sydd wedi cael gwahoddiad.

Llwyddodd Gabriel Batistuta i rwydo unig gôl y gêm wrth i’r Ariannin drechu Siapan yng ngêm agoriadol y gystadleuaeth.

A llwyddodd ymosodwr Fiorentina i rwydo yn y funud olaf un yn erbyn Cymru yn yr ail gêm hefyd er mwyn sicrhau mai’r Archentwyr fyddai’n ennill y tlws.

Yn y gêm olaf, roedd angen buddugoliaeth ar Gymru er mwyn osgoi gorffen ar waelod y tabl a rhwydodd Mark Bowen unig gôl y gêm i sicrhau’r ail safle er gwaetha’r ffaith i Gymru chwarae hanner awr olaf y gêm gyda 10 dyn wedi i ymosodwr Huddersfield, Iwan Roberts weld, cerdyn coch.


Japan: Maikawa – Meura, Katuya, Horiike, Ahashiratani, Tsunami (60′ Yoshide), Ihara, Takeda (74′ Takegi), Hirekawi, Moriyasu, Kitazawa

Cymru: Southall – Phillips, Aizlewood (68′ Melville), Blackmore, Symons, Bowen, Speed, Horne, Hughes, Saunders (80′ Pembridge), Roberts