9 Tachwedd

 

Ar y diwrnod yma ym 1996 dioddefodd Cymru eu colled gwaethaf ers 1930 wrth i’r Iseldiroedd chwalu tîm Bobby Gould 7-1.

Roedd Cymru ar frig grŵp rhagbrofol 7 cyn teithio i Eindhoven diolch i ddau fuddugoliaeth swmpus dros tîm gwnaf y grŵp, San Marino.

Ond roedd yr Isedirtoedd eisoes wedi dod â rhediad hyderus Cymru i ben â buddugoliaeth 3-1 ym Mharc yr Arfau, Caerdydd ym mis Hydref 1996.

Er i Dean Saunders roi’r tîm cartref ar y blaen wedi dim ond 17 munud, cafwyd tair gôl mewn saith munud yn yr ail hanner gan Pierre van Hooijdonk, rwydodd ddwywaith, a Ronald de Boer, i sicrhau buddugoliaeth gymharol gyfforddus i’r Iseldiroedd.

Er y golled, doedd gan dîm Bobby Gould ddim syniad o’r hyn oedd i ddod yn y Philips Stadion, cartref PSV Eindhoven, pump wythnos yn ddiweddarach.

Penderfynodd Gould wneud pedwar newid i’r tîm oedd wedi colli yng Nghaerdydd ond y n ewid mwyaf syfrdanol oedd dewis Vinnie Jones fel capten.

Doedd Jones ddim hyd yn oed yn y garfan ar gyfer y gêm flaenorol ond cafodd y fraint o arwain Cymru i’r maes mewn gêm sydd wedi dod yn rhan o hanes pêl-droed Cymru … am y rhesymau anghywir.

Dim ond 20 munud oedd ei angen ar yr Oranje i dorri drwy amddiffyn Cymru wrth i Dennis Bergkamp roi’r tîm cartref ar y blaen, ond unwaith fo’r llifddorau wedi eu hagor, doedd na’m ffordd yn ôl i Gymru.

Ychwanegodd Ronald de Boer ail gôl cyn i Wim Jonk ei gwneud yn 3-0 llai na 60 eiliad yn ddiweddarach – roedd am fod yn noson hir i’r miloedd o gefnogwyr Cymru oedd wedi gwneud y daith fer i Eindhoven.

Cafodd y Cymry gylfe i ddathlu pan rwydodd Saunders gôl gysur – oedd roedd yn gôl gysur yn barod – wedi 38 munud, ond sbardunwyd yr Iseldirwyr gan y gôl a dilynodd Frank de Boer ei frawd ar y rhestr sgorwyr ychydig funudau cyn yr egwyl.

Mae’r ffaith mai golwr Cymru, Neville Southall, oedd seren y gêm i nifer o’r gohebwyr oedd yn bresenol yn dweud cyfrolau am ragoriaeth y tîm cartref.

Bachodd Philip Cocu bumed gôl wedi awr o’r chwarae cyn i Bergkamp goroni’r cyfan gyda dwy gôl i gwblhau ei hat-tric.

Cymru v. Netherlands: Neville Southall; Alan Neilson, Mark Pembridge, Andy Melville, Kit Symons; Vinnie Jones, Mark Bowen, Jason Bowen (John Robinson 56′), Gary Speed; Dean Saunders, John Hartson (Gareth Taylor 66′).