Y Llais

Y Llais

MAE Y LLAIS YN ÔL: Cyfres 3!

Bydda'n rhan o gynulleidfa Clyweliadau Cudd Y Llais

Bydd y Clyweliadau Cudd yn cael eu ffilmio ddydd Gwener 27ain a dydd Sadwrn 28ain o Dachwedd yn Dragon Studios, Pencoed, ger Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd dwy sesiwn recordio bob dydd. Mae'r tocynnau am ddim.

Clicia ar y linciau isod i archebu tocynnau am ddim

Image
Image
Image
Image

CYFEIRIAD Y STIWDIO

Dragon Studios, Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr, CF35 5NQ

 

SUT I GYRRAEDD

Dilynwch y ddolen ‘what 3 words’ am gyfarwyddiadau i gyrraedd y stiwdio:

https://what3words.com/seashell.gadgets.damage

 

WRTH GYRRAEDD

Wedi cyrraedd, bydd Swyddog Diogelwch yn eich cofrestru a’ch cyfeirio at y maes parcio. Mae’r parcio am ddim.

Unwaith y byddwch wedi parcio, dilynwch yr arwyddion at babell y gynulleidfa y tu allan i Stiwdio 4. Bydd y Tîm Cynulleidfa yn eich croesawu a’ch cofrestru ac yna yn tywys i’ch seddi. Bydd eich eiddo yn cael ei gadw’n ddiogel trwy gydol y sioe.

Bydd y sesiwn recordio’n para tua 4 awr 20 munud , ac ni chaniateir i chi adael y stiwdio yn ystod y cyfnod hwn oni bai bod hyn eisoes wedi cytuno gyda ni am resymau meddygol.

Bydd egwyl hanner ffordd trwy’r recordiad lle cynigir dŵr, byrbrydau a chyfle i ddefnyddio’r cyfleusterau.

 

RHEOLAU TOCYNNAU A STIWDIO

• Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol dros 18 oed.

• Ni chaniateir bwyd na diod yn y stiwdio.

• Nid oes hawl tynnu lluniau, fideo, neu cymryd unrhyw recordiadau eraill o’r lleoliad ffilmio.

• Peidiwch â thrafod canlyniadau’r recordiad gydag unrhyw un y tu allan i’r gynulleidfa – nid ydym am ddifetha’r mwynhad y gwylwyr gartref.

• Rhaid diffodd pob ffôn symudol cyn mynd i lawr y stiwdio, ac ni chaniateir unrhyw offer recordio yn y lleoliad ffilmio.

• Ni chaniateir plant dan 8 oed yn y stiwdio.

• Os hoffech wneud archeb grŵp ar gyfer mwy na tri phlentyn neu grŵp o deg o oedolion neu fwy, cysylltwch â cynulleidfa@boomcymru.co.uk

• Gofynnir i chi wisgo dillad tywyll (os yn bosib du neu glas tywyll) ac osgoi gwisgo dillad a logos mawr.

 

CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

Peidiwch, o dan unrhyw amgylchiadau, â dosbarthu unrhyw luniau neu fideos o’r lleoliad ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol personol neu broffesiynol neu ar grwpiau negeseuon fel WhatsApp.

 

CYTUNDEB CYFRINACHEDD

Ar ôl cyrraedd y lleoliad ffilmio bydd angen i bob aelod o’r gynulleidfa arwyddo cytundeb cyfrinachedd.

Bydd hyn yn helpu i ddiogelu’r hud a chyffro’r rhaglen i’r gwylwyr gartref a phawb sy’n cymryd rhan.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Y Llais - dewch i fod yn rhan o’r gynulleidfa ac i fwynhau holl gyffro’r Clyweliadau Cudd.