S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wefan hon

Hygyrchedd

Er mwyn gwneud gwefan S4C yn hygyrch i gymaint o ddefnyddwyr â phosib, mae'r wefan wedi ei hadeiladu gan ddefnyddio safonau gwe ac arfer da canllawiau hygyrchedd y we. Mae hyn yn sicrhau y bydd y wefan yn gweithio mewn dyfeisiau pori modern yn ogystal â gwneud y wefan yn haws i'w defnyddio gan y rheiny sydd ag anableddau.

Mae consortiwm safonau'r we (The World Wide Web Consortium neu W3C) yn cyhoeddi safonau a chanllawiau gyda'r bwriad o sicrhau twf hir dymor y we. Yn unol â'r cyfrifoldeb hwn, maent wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer datblygu gwefannau hygyrch sy'n cael eu hadnabod fel 'The Web Content Accessibility Guidelines' neu 'WCAG'.

Lle bo hynny'n bosib, mae gwefan S4C wedi ei hadeiladu i gydymffurfio â thargedau 1 a 2 WCAG tra'n gwneud pob ymdrech i gyrraedd targed 3. Mae gwefannau rhaglenni S4C a rhai adrannau eraill o'r wefan angen eu hail adeiladu i gyrraedd y safonau hygyrchedd a byddwn yn gwneud hyn yn raddol.

Mae S4C yn croesawu eich adborth ar faterion sy'n effeithio eich gallu i gael mynediad at ein gwasanaethau os ydych yn anabl neu beidio. Cysylltwch â ni os hoffech wneud awgrymiadau neu sylwadau pellach.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?