

Mae cystadleuaeth Cân i Gymru 2027 bellach ar agor gyda’r darllediad byw ar nos Sadwrn 27 Chwefror 2027 pan fydd dewis y rheithgor o restr fer o ganeuon yn cael eu rhoi i bleidlais gyhoeddus.
Bydd y gân fuddugol yn cipio tlws y gystadleuaeth, gwobr ariannol o £5,000 a chyfle i recordio fideo cerddoriaeth, gydag enillydd yr ail wobr yn ennill £3,000 ac enillydd y drydedd wobr yn hawlio £2,000.
Dyddiad cau: 4 Hydref 2026.