S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Chwaraeon

Ar gael nawr

  • None

    Y Gic Fawr

    O Ben-y-bont i ben y byd pêl-droed Americanaidd- dyma raglen ddogfen arbennig sy'n dilyn stori anhygoel y cyn chwaraewr rygbi, Evan Williams. Gwelwn Evan yn dechrau ei flwyddyn olaf yn chwarae i goleg Missouri Western State, cyn edrych tuag at ei freuddwyd fawr o gyrraedd yr NFL.

  • Ralio+

    Ralio+

    Uchafbwyntiau o bedwaredd rownd Pencampwriaeth Rali'r Byd o Croatia. Gall y gyrrwr o Ddolgellau Elfyn Evans ennill y rali heriol yma am yr eildro yn dilyn ei fuddugoliaeth y llynedd' Bydd angen ymdrech arwrol wrth i yrwyr gorau'r byd ralïo dros heolydd asffalt y wlad o flaen 300,000 o gefnogwyr. Holl gyffro'r rali yng nghwmni Emyr Penlan, Hana Medi a Rhys ap William.

  • Sgorio

    Sgorio

    Cyfres llawn cyffro pêl-droed y pyramid Cymreig. Holl uchafbwyntiau penwythnos ola'r tymor cyffredin yn y Cymru Premier JD, a chadarnhad o ba glybiau fydd yn disgyn ac yn esgyn.

  • Clwb Rygbi

    Clwb Rygbi

    Cyfle i weld y gêm Pencampwriaeth Rygbi Unedig rhwng Caeredin a'r Scarlets a chwaraewyd ddoe yn Stadiwm DAM Health.

  • Rygbi Ewrop

    Rygbi Ewrop

    Gêm wyth-olaf Cwpan Her EPCR rhwng Caerloyw a'r Gweilch. Stadiwm Kingsholm. C/G 8.00yh.

  • Pêl-droed Rhyngwladol

    Pêl-droed Rhyngwladol

    Uchafbwyntiau gêm Pencampwriaeth Ewropeaidd 2025 rhwng Kosovo a Chymru. Stadiwm Zahir Pajaziti.

  • Sgorio Rhyngwladol

    Sgorio Rhyngwladol

    Rownd Derfynol Gemau Ail Gyfle EURO 2024 - Ar ôl trechu'r Ffindir dyw tîm Rob Page ond un cam i ffwrdd o gyrraedd EURO 2024, ond bydd rhaid i Gymru guro Gwlad Pwyl am y tro cyntaf ers hanner canrif er mwyn sicrhau eu lle ar yr awyren i'r Almaen. Stadiwm Dinas Caerdydd. C/G 7.45.

  • Mwy o Chwaraeon

    Mwy o Chwaraeon

    Mwy o raglenni Chwaraeon S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?