1) Oes angen cyfrifiadur arnaf i ddefnyddio'r gwasanaeth bleidleisio?
Gallwch bleidleisio gan ddefnyddio cyfrifiadur, tabled neu ffôn clyfar, neu unrhyw ddyfais sy'n gallu cysylltu â'r rhyngrwyd trwy borwr safonol. Bydd angen i chi hefyd ddarparu cyfeiriad e-bost dilys i dderbyn ac ymateb i'r e-bost a ddaw gan Cân i Gymru i gadarnhau eich pleidlais.
2) A allaf bleidleisio gan ddefnyddio fy ffôn?
- Gallwch - os oes gan y ffôn borwr i gyrraedd tudalennau ar y we, h.y. ffôn clyfar fel dyfais Android neu Apple iOS.
- Mae angen cysylltiad â'r we trwy Wi-Fi neu ddata symudol.
- Mae'r dudalen bleidleisio wedi'i gynllunio i weithio ar sgriniau bychain. Unwaith y byddwch wedi clicio ar eich dewis, efallai y bydd angen sgrolio lawr y dudalen i symud ymlaen at gam nesa'r broses.
- Bydd hefyd gofyn i chi ymateb i e-bost i gadarnhau eich pleidlais.
3) Beth os na allaf gael y côd QR i weithio?
Mae'r côd QR yn ddolen i: s4c.cymru/canigymru.
Gallwch gadw'r cyfeiriad yma fel ffefryn yn y porwr i gyflymu cyrraedd hafan y gwasanaeth pan fydd y cyfnod pleidleisio yn agor.
4) Rwy'n byw mewn ardal sydd â chyflymder band eang isel. Fydda'i yn gallu pleidleisio?
Os yw hafan s4c.cymru/canigymru yn llwytho ar eich dyfais, ac fe allwch dderbyn ac ymateb i ebyst, byddwch yn gallu defnyddio'r gwasanaeth. Nid oes angen cysylltiad cyflym dros ben ar y gwasanaeth i weithio'n gywir.
5) Rwy'n byw mewn ardal gyda signal ffôn symudol gwael ac am bleidleisio ar fy ffôn. A fydda i'n gallu gwneud hyn?
Mae signal data 4G ac uwch yn ddelfrydol ond fe all y gwasanaeth weithredu ar gyflymder data is fel Edge.
6) 'Dwi heb dderbyn e-bost dilysu - beth ddylwn i wneud a pha mor hir dylwn i aros?
- Gall gymryd ychydig funudau i gyrraedd yn dibynnu ar gosodiadau eich e-bost a sut mae eich dyfais yn trin post sy'n cyrraedd.
- Chwiliwch am e-bost oddi wrth 'Cân i Gymru 2026' yn gofyn 'Dilyswch eich cyfeiriad e-bost i ni gyfri'ch pleidlais'.
- Ail-lwythwch cynnwys eich mewnflwch e-bost os oes angen.
- Efallai na fydd y neges yn y prif mewnflwch. Gwiriwch y ffolderi eraill fel 'Diweddariadau'.
- Gwiriwch eich ffolderi sbam a jync.
- Os nad ydych wedi derbyn yr e-bost ar ôl cyfnod rhesymol, dechreuwch y broses eto gan gymryd gofal arbennig pan yn sillafu eich cyfeiriad e-bost.
7) Beth fydd yn digwydd os bydd y cysylltiad rhyngrwyd yn methu rhwng cyflwyno fy mhleidlais a derbyn yr ebost dilysu?
- Os welwch chi'r dudalen sy'n eich atgoffa i wirio'ch e-bost, mae'ch pleidlais yn dal i ddisgwyl cael ei ddilysu.
- Unwaith fod y cysylltiad rhyngrwyd yn ei ôl, dylech weld yr e-bost yn cyrraedd. Os na, gweler y cwestiwn ''Dwi heb dderbyn e-bost dilysu' (Pwynt 6)'
- Os oes amheuaeth, dechreuwch y broses bleidleisio o'r newydd.
8) Beth os bydda'i wedi clicio ar y ddolen wirio yn fy e-bost, a dydw i ddim yn gweld y dudalen we sy'n cadarnhau fod fy mhleidlais wedi'i derbyn?
- Os nad ydych yn derbyn cadarnhad wedi clicio ar y ddolen yn yr e-bost dilysu, ail-lwythwch eich porwr a dechreuwch eto.
- Os byddwch yn derbyn neges gwall ar eich ail gynnig yn dweud eich bod 'eisoes wedi pleidleisio', yna mae eich pleidlais wreiddiol wedi'i dderbyn, a does dim angen gwneud dim byd pellach.
9) Oes gwahaniaeth os ydw i'n derbyn e-bost trwy borwr rhyngrwyd fel Chrome yn hytrach nag app e-bost fel Outlook neu Apple Mail?
Nac oes – does dim gwahaniaeth pa fodd yr ydych yn derbyn e-byst. Gwnewch yn siŵr eich bod yn chwilio yn eich mewnflwch a'r ffolderi eraill fel uchod.
Y cam pwysicaf yw clicio ar y ddolen 'Cliciwch yma i wirio eich cyfeiriad e-bost a dilysu eich pleidlais.' Efallai y bydd y ddolen yn ymddangos yn wahanol mewn rhai systemau e-bost, ond dylai fod yn glir yng nghorff yr e-bost.
10) A gaf i bleidleisio o tu allan i Gymru?
Gallwch bleidleisio o unrhyw le yn y DU, ond nid o dramor.
11) Rwyf wedi dilyn y camau uchod ond ni allaf gofrestru fy mhleidlais o hyd, neu rwy'n dal i dderbyn neges gwall.
- Ail-lwythwch eich porwr.
- Rhowch gynnig arall ar y broses gan gymryd gofal arbennig i wirio eich cyfeiriad e-bost
- Rhowch gynnig ar gyfeiriad e-bost gwahanol os oes un gennych.
- Rhowch gynnig ar ddyfais wahanol.
- Newidiwch eich cysylltiad o ddata symudol i Wi-Fi (neu i'r gwrthwyneb)
- Gall defnyddio VPN achosi problemau. Rhowch gynnig ar gysylltiad rhyngrwyd uniongyrchol.
12) Sut mae ail-lwytho'r wefan ar fy mhorwr?
Ffôn clyfar:
- Gwasgwch y botwm 'Ail-lwytho' ar eich porwr.
- Sgroliwch i lawr o'r top i ail-lwytho'r dudalen.
- Ail-lwythwch ar eich porwr drwy ail-ddanfon y linc.
Cyfrifiadur:
- Windows: Gwasgwch yr allweddi Ctrl a ⇧ Shift i lawr ac yna gwasgwch ar 'R'.
- Mac: Gwasgwch yr allweddi ⌘ Cmd a ⇧ Shift i lawr ac yna gwasgwch ar 'R'.
- Gwasgwch y botwm 'Ail-lwytho' ar eich porwr.
- Ail-lwythwch ar eich porwr drwy ail-ddanfon y ddolen.