Yn y rhaglen olaf o'r gyfres Iaith ar Daith y comedïwyr a'r actorion Jayde Adams a Geraint Rhys Edwards sy'n teithio ar draws Cymru gyda'r nôd o ysgogi a helpu Jayde i ddysgu Cymraeg. Fe fydd Jayde yn gwynebu cyfres o sialensau ieithyddol ac fe fydd Geraint wrth ei hochor ar hyd y ffordd. Ac fe fydd digon o gaws i gyd-fynd gydag ambell jôc gawslyd falle' Ond- a fydd y Gymraeg yn llifo neu'n brifo?
Yn y bumed pennod o'r gyfres Iaith ar Daith mae'r cyn chwaraewyr rygbi rhyngwladol a ffrindiau agos Adam Jones ac Mike Phillips yn teithio ar draws Cymru gyda'r nôd o ysgogi a helpu Adam i ddysgu Cymraeg. Fe fydd Adam'n gwynebu cyfres o sialensau ieithyddol ac fe fydd Mike wrth ei ochor ar hyd y ffordd. Fe fydd ymddangosiad arbennig iawn hefyd gan rhai o'u cyd-llewod! Ond- a fydd y Gymraeg yn llifo neu'n brifo?