

Cyfres newydd.
Gwyliwch bob pennod nawr ar S4C Clic a BBC iPlayer.
10.06.26
Mae Sarra a’r tîm Taclo’r Tŷ yn dod at ei gilydd i helpu Fran, sy’n gwynebu heriau iechyd ac sy’n gwneud bywyd bob dydd yn anodd. Gyda’i hystafell sbâr yn llawn annibendod ac yn amhosibl ei defnyddio, mae’r tîmyn creu ystafell gerddoriaeth ymarferol lle gall Fran ymlacio, bod yn greadigol ac ail-gynnau ei chariad at gerddoriaeth.
17.06.26
Ar ôl cyfnod anodd o brofedigaeth a cholli hyder, mae Leon angen help i ail-weithio rhan o’i gartref a’i hyder. Mae Sarra a thîm Taclo’r Tŷ yn trawsnewid hen garej i fod yn ofod aml-bwrpas croesawgar sy’n helpu gydalles a bywyd bob dydd Leon.
24.06.26
Gyda’i phlant yn tyfu ac angen mwy o le iddyn nhw eu hunain, mae Ffion yn galw ar Sarra a thîm Taclo’r Tŷ am help. Mae’r tîm yn trawsnewid llofft segur i fod yn ystafell ymlacio groesawgar lle gall y plant ymlacio, cymdeithasu a mwynhau mwy o annibyniaeth.
01.07.26
Ers blynyddoedd mae gardd diflas Sian a Rhys wedi bod yn destun straen ac embaras. Mae Sarra a thîm Taclo’r Tŷ yn camu i mewn i drawsnewid yr ardd yn ofod croesawgar lle gall y teulu ymlacio, gwahoddffrindiau draw a threulio amser gyda’i gilydd.
08.07.26
Ar ôl symud yn ôl adref at ei rhieni, mae Carys yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i le a threfn sy’n gweithio iddi. Mae’i Mam, Andrea, yn gobeithio y bydd amgylchedd tawelach yn helpu gyda lles ac anghenion ADHD Carys, felly mae Sarra a thîm Taclo’r Tŷ yn creu ail lolfa a noddfa ymlacio er mwyn roi mwy o annibyniaeth i Carys.
15.07.26
Ar ôl gadael Caerdydd brysur am fywyd tawelach yng ngorllewin Cymru, mae Huw a Rhiannon yn ei chael hi’n anodd cydbwyso bywyd gwaith â bywyd adref. Mae Sarra a thîm Taclo’r Tŷ yn trawsnewid eu caban prensy’n llawn dodrefn i fod yn swyddfa gweithio o adref ymarferol sy’n addas ar gyfer bywyd teulu modern