S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Amdanom ni

Denise Lewis Poulton

Tymor Aelodaeth: 01.04.2021-31.03.2025

Mae Denise yn arbenigwr cyfathrebu strategol, brand a materion corfforaethol profiadol. Cafodd ei geni a'i magu yng Nghastell Newydd Emlyn, Sir Aberteifi a'i haddysg yn Ysgol Ramadeg Llandysul a King's College, Prifysgol Llundain. Treuliodd ei gyrfa gorfforaethol yn bennaf fel uwch gyfarwyddwr mewn cwmnïau telegyfathrebu rhyngwladol fel Bell Canada plc, Cable & Wireless Communications plc ac Orange plc.

Aeth ymlaen i sefydlu busnes ymgynghori yn cynghori nifer o sefydliadau diwylliannol, cyfryngau a sector cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Senedd Cymru, S4C a Chanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd.

Mae hi wedi gwasanaethu fel Ymddiriedolwr a Chyfarwyddwr Anweithredol gyda sawl sefydliad diwylliannol cenedlaethol yn eu plith Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, Gŵyl Lenyddol y Gelli a Chasgliad Wallace yn Llundain. Mae hi'n Gymrawd Oes er Anrhydedd i BAFTA. Penodwyd Denise yn Ymddiriedowr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol ac yn Gadeirydd Pwyllgor Cymru.

Ochr yn ochr â rhedeg ei chwmni ymgynghori, mae Denise ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Arweinyddiaeth Ddiwylliannol yn yr Academi Frenhinol a Phrifysgol Maastricht.

Ym mis Mawrth 2023, fe'i penodwyd yn Ymddiriedolwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol, a Chadeirydd Pwyllgor Cymry, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Datganiad o Dreuliau: 2023-24

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?