S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Amdanom ni

Chris Jones
(​Aelod Anweithredol Arweiniol)

Tymor Aelodaeth: 01.02.2021-31.01.2025

Roedd Chris yn gyd-sylfaenydd Glas Cymru Cyf., wnaeth brynu Dŵr Cymru yn 2001 i greu'r unig gwmni cyfleustodau yn y DU nad yw'n eiddo i gyfranddalwyr. Ef oedd Prif Swyddog Ariannol Dŵr Cymru rhwng 2001 a 2013 ac yna'n Brif Weithredwr nes iddo adael y cwmni ym mis Mai 2020.

Ar hyn o bryd mae'n Gyfarwyddwr Anweithredol o Xoserve Limited (darparwr gwasanaethau data canolog y farchnad nwy ym Mhrydain) ac mae'n gyn Gyfarwyddwr Anweithredol gyda Chymdeithas Adeiladu'r Principality. Mae'n aelod lleyg o Gyngor Prifysgol Caerdydd. Mae o wedi cael amrywiaeth o rolau fel ymddiriedolwr neu gynghorwr gyda sefydliadau trydydd sector, gan gynnwys Ymddiriedolaeth y Tywysog, y Sefydliad Materion Cymreig, Water UK a CBI Cymru. Dysgodd Chris Gymraeg fel oedolyn. Dyfarnwyd CBE iddo yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2020.

Datganiad o Dreuliau: 2023-24

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?