S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Amdanom ni

Suzy Davies

Tymor Aelodaeth: 01.08.2022-31.07.2026

Yn gyfreithiwr cymwysedig, dilynodd Suzy yrfaoedd ym maes marchnata'r celfyddydau ac fel uwch gyfreithiwr gyda deng mlynedd o wasanaeth fel Aelod o'r Senedd, gan gynnwys tymor fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Ddiwylliant, Treftadaeth a'r Gymraeg.

Ers hynny, mae hi wedi bod yn eiriolwr dros dwristiaeth yng Nghymru, fel Cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru, ac mae'n parhau i ymgyrchu dros fwy o gydraddoldeb fel aelod o fwrdd Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod. Mae hi hefyd yn aelod o fwrdd Colegau Cymru a bwrdd archwilio a risg y Comisiynydd Plant. Yn un o sylfaenwyr Gŵyl Ffilm Ryngwladol Cymru, mae hi bellach yn aelod o Fwrdd Gŵyl Ffilm Iris.

Yn enedigol o Abertawe, cafodd Suzy ei magu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Cwm Cynon, Caerdydd ac Aberhonddu. Ar ôl gweithio yn Abertawe, Y Drenewydd ac Aberystwyth, ymgartrefodd yn Nyffryn Dyfi lle mae gan ei theulu fusnes fferm a thwristiaeth, a lle dysgodd Gymraeg.

Datganiad o Dreuliau: 2023-24

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?