Mae'r Uwch Dîm Arwain yn darparu arweinyddiaeth strategol a gweithredol i sicrhau bod gweledigaeth, amcanion corfforaethol, a gwerthoedd S4C yn cael eu cyflawni'n effeithiol, yn ôl strategaeth y sianel.
Dan arweiniad y Prif Weithredwr, yr Uwch Dîm Arwain sy'n gyfrifol am arwain y sefydliad o ddydd i ddydd, yn unol â'r polisïau a gymeradwywyd gan y Bwrdd a chan gynnal diwylliant sefydliadol cadarnhaol yn unol â'r Cod Diwylliant.
Mae'n gwasanaethu fel dolen gyswllt strategol rhwng y Bwrdd a'r sefydliad.
Pennaeth Materion Cyhoeddus
Pennaeth Cyfreithiol