S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Beca Lyne-Pirkis

    Beca Lyne-Pirkis

    calendar

  • 7 rysáit iach i fwydo’r teulu am wythnos

      Rhannu’r blog
      close button

      Rhannu’r blog trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Copio
      Wedi’i gopio

    Mae ceisio dod o hyd i brydau i blesio pawb yn y tŷ yn gallu bod yn sialens a hanner - rhywbeth mae bron bob teulu yn y wlad yn wynebu bob wythnos. Ychwanegwch yr angen i gael prydau iach hefyd, a dwi'n siŵr y bydd sawl teulu'n crafu pen i feddwl am syniadau.

    Fel Arbenigwr Bwyd newydd FFIT Cymru, Mam, a pherson prysur sy'n hoff o gadw'n heini, dwi'n anelu i greu prydau gyda chydbwysedd da sy'n apelio at bawb yn y teulu. Ar gyfer y gyfres newydd o FFIT Cymru, nes i osod y sialens i greu ryseitiau iach o rai o fy hoff brydau têc-awê, yn cynnwys pysgod a sglodion (Sgod a Sglods), nwdls, Cyri Catsw Cyw-iâr, a hyd yn oed y peli-cig yna o'r siop fawr sy'n gwerthu celfi!

    Wrth gwrs, mae pryd pasta, salad llawn blas a chynhwysion, heb anghofio pryd bwyd sy'n fegan (gydag iogwrt fegan. Digon o amrywiaeth i blesio pawb!

    Ar wahân i greu prydau blasus, y peth pwysicaf i mi yw ceisio lleihau faint o fwyd sy'n cael ei wastraffu. Fe welwch chi fod sawl rysáit sy'n defnyddio llysiau tebyg, felly fe allwch greu cwpwl o'r prydau yn ystod yr wythnos gan ddefnyddio'r un cynhwysion. Peidiwch meddwl bod hyn yn golygu coginio'r llysiau yn yr un ffordd ar gyfer sawl pryd - o na! Mi fyddwch chi'n defnyddio moron i greu saws neu bicl ac fel cynhwysyn sy'n rhan o'r tagine…ewch i ddathlu hyblygrwydd y foronen!

    Peidiwch â phoeni am orfod prynu llwyth o lysiau ffres a gofidio eu bod nhw'n mynd yn hen. Dwi'n ffan enfawr o fwydydd tun, gan gynnwys tiwna ar gyfer y salad, a'r arwr ei hun - ffacbys a thomatos tun - dau o fy hoff gynhwysion yn y byd i gyd. Fe allwch chi brynu bron pob un o'r llysiau wedi'i rhewi 'fyd, sy'n helpu lleihau gwastraff bwyd unwaith eto.

    Er mwyn gwneud bywyd hyd yn oed yn fwy hawdd, ewch ati i gynllunio pa ryseitiau y byddwch chi'n bwyta dros yr wythnos. Gwiriwch yn gyntaf pa gynhwysion sydd yn y tŷ'n barod, er mwyn osgoi dyblu fyny ar bethau. Yna, gwnewch restr siopa a sticiwch iddo!

    Dwi'n aml yn creu dau bryd mewn un noson, a rhewi'r pryd sydd ddim yn cael ei fwyta - neu ei gadw yn yr oergell tan y noson wedyn. Ma' hwn yn golygu eich bod chi ddim yn coginio bob nos, dim ond un noson bob yn hyn a hyn, ac yna dim ond angen cynhesu'r pryd ar gyfer y noson arall. Mae'r rhewgell yn achub fy nghroen sawl gwaith, yn enwedig pan dwi wedi blino ac yn llwglyd!

    Prif nod y prydau hyn yw bod nhw'n iach, ac mi fydd angen i chi ddilyn y mesuriadau i'r gair - yn enwedig unrhyw olew sy'n cael ei ddefnyddio.

    Yn olaf - mwynhewch! Mae'r ryseitiau wedi cael eu creu ar gyfer dau berson, felly mae'n hawdd cynyddu ar gyfer teulu neu grŵp o bedwar, chwech, wyth ayyb; neu dyblwch y rysáit er mwyn cael y pryd eto hwyrach yn yr wythnos.

    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?