S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Pasta olwyn caws

Cynhwysion

  • olwyn o gaws Teifi wedi'i aeddfedu
  • blawd '00' (100g am bob wy)
  • wyau
  • wisgi (Distyllfa Aber Falls)

Dull Chris

Toes i'r Pasta

  1. Mewn powlen, gwnewch bant bach yn ganol y blawd ac ychwanegu'r wyau.
  2. Am bob 100g o flawd bydd angen 1 wy.
  3. Cymysgwch gyda fforc ac wedyn dwylo i mewn i ddod â'r toes at ei gilydd gan dylino'r toes tan iddo ffurfio fel 'play-doh' yna'i lapio mewn cling film. Rhowch mewn oergell i oeri.
  4. Nesaf bydd angen carfio digon o gaws i ychwanegu i'r saws. Os yn defnyddio olwyn gaws, tynnwch y clawr a charfio digon o gaws o'r top i greu powlen gaws anferth.

Y Pasta

  1. Llenwch sosban â dŵr a rhoi ar y tân i ferwi.
  2. Tynnwch y toes allan o'r oergell a'i dorri mewn i ddarnau bach. Gwasgwch hwn i lawr ychydig a'i roi drwy'r teclyn gwneud pasta.
  3. Rhoi'r pasta i fewn i'r dŵr berw a'i goginio am 3 munud. (Os yn defnyddio pasta cyffredin – coginiwch am 9-11 munud.)

Flambe wisgi

  1. Rhowch ychydig o wisgi Aber Falls mewn sosban gwrthstaen a'i losgi efo 'blow torch' cyn ei arllwys mewn i'r bowlen gaws.
  2. Ychwanegu'r pasta gan ddefnyddio'r dŵr startsh o'r pasta i orchuddio'r cwbl ac i doddi'r caws.
  3. Cymysgwch y pasta cyn ychwanegu'r grawn pupur wedi malu'n fân ac mae o'n barod. Iechyd da!

Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Bwyd Epic Chris.

Rysáit gan Chris Roberts.

Instagram: @flamebaster

Twitter: @FLAMEBASTER

    Rhannu’r rysáit
    close button

    Rhannu’r rysáit trwy:

    Copio’r ddolen

    copy icon
    Sut i goginio
    Copio
    Wedi’i gopio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?