S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Coctel corgimwch Jamaican

Cynhwysion

Marinêd jerk:

Does 'na ddim union amounts yn y jerk yma, go with the flow efo be 'da chi'n licio - dwi'n licio hi'n BOETH!

  • rhosmari ffres
  • teim ffres
  • halen môr
  • aeron pimento sych / 'allspice'
  • tsili scotch bonnet
  • shibwns
  • nytmeg cyfan ffres
  • zest a sudd leim
  • sinsir ffres
  • ewin garlleg wedi'u plicio
  • sinamon mâl
  • mêl rhedegog
  • dail bae
  • persli ffres
  • tsili cymysg
  • reis olew olewydd (dim extra virgin)
  • finegr seidr afal

Bwyd môr:

  • 1kg corgimwch (dwi'n defnyddio prawns mawr, pen a cynffon dal ar, wedi'i 'de-veinio' gan y fishmonger)
  • rym Cymreig

I orffen:

  • letys iceberg
  • saws Marie Rose (cymysgedd o mayo, sos coch, Worcestershire sauce, sudd lemwn, halen môr)

Dull Chris

Marinêd jerk:

  1. Fedrwch chi 'neud y marinâd mewn blendar ond bydd o'n blasu'n lot gwell mewn 'pestle & mortar'! I mewn efo'r dail rhosmari, teim a halen môr a'u malu'n dda cyn ychwanegu'r pimento.
  2. Bash arall, yna i mewn 'efo'r Scotch bonnets a shibwns, gratio'r nytmeg i mewn yna ychwanegu bob dim arall.
  3. Cario 'mlaen i greindio tan bod 'na past tew.
  4. Glug dda o olew olewydd a finegr i orffan.

Bwyd môr:

  1. Marineidio'r prawns am tua hanner awr a 'newch yn siŵr bod pob darn o'r prawns wedi'i orchuddio efo jerk!
  2. Mae jerk ar ei ora ar y BBQ dros tân a mwg, ond bydd o dal yn neis ar y badell yn eich cegin adra.
  3. I mewn efo'r prawns i'r badell poeth, gadael y prawns gael lliw / 'char' da cyn troi nhw. Munud neu ddau bob ochr. Gorffen efo flambé o rum - 'dwi'n defnyddio un Cymreig o Ynys Môn!

I orffen:

  1. Serfio efo letys iceberg wedi'i shredio, saws Marie Rose, a toppio efo'r jiwsys a'r jerk o'r badell. BOOM! '70s mewn powlen - 'sa nain 'di bod yn chuffed.

Rysáit gan Chris Roberts a'i westeion arbennig (Bwyd Byd Epic Chris).

Instagram: @flamebaster

Twitter: @FLAMEBASTER

    Rhannu’r rysáit
    close button

    Rhannu’r rysáit trwy:

    Copio’r ddolen

    copy icon
    Sut i goginio
    Copio
    Wedi’i gopio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?