S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Elwen Roberts

    Elwen Roberts

    calendar Dydd Iau, 10 Chwefror 2022

  • Torth banana a siocled

    Cynhwysion

    • 150g o flawd codi
    • ½ llwy de o bowdr bicarb.
    • pinsied o halen
    • 75g fenyn wedi ei feddalu
    • siwgr brown golau
    • 2 wy mawr wedi'I curo
    • 3 banana cymhedrol wedi eu mashie
    • 1 llwy de fanilla
    • 25g gnau cymysg wedi eu torri'n fan (os mynir)
    • 150g siocled meddal (spread)
    • 80ml llaeth

    Dull

    1. Cynhesu'r popty i 180°C (ffan 160) nwy 4.
    2. Iro tin torth
    3. Rhoi'r blawd, bicarb a'r halen gyda'i gilydd a'u cymysgu
    4. Mewn powlen curo'r menyn a'r siwgr nes yn ysgafn, ychwanegu'r wyau yn raddol, yna yr bananas, blas fanila a'r llaeth. Curo yn dda.
    5. Ychwanegwch yr gymysgfa blawd a'I droi yn ysgafn.
    6. Cynheswch yr past siocled unai mewn bowlen dros sosban neu yn yr microdon am 10 eiliad nes yn feddal, yna rhoi ¼ yr gymysgfa banana ynddo a'I droi.
    7. Rhowch lwyeidiaid o'r gymysgfa banana yn yr tun a peth o'r gymysgfa siocled rhwng bob pentwr- yna ei 'swirlio' yn defnyddio llwy. Peidiwch a cymysgu'r cyfan gyda'i gilydd.
    8. Ei roi yn yr popty am tua 60 munud. Gallwch weini gyda fwy o siocled!

    Rysáit gan Elwen Roberts / Hybu Cig Cymru, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

    Ryseitiau Prynhawn Da

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?