S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Chowder eog a bacwn

Cynhwysion

  • ffiled eog neu hadog
  • ½ lemwn
  • 25g menyn
  • 1 winwns
  • 2 seleri
  • 3 sleisen bacwn
  • 1 deilen llawryf
  • teim
  • 300g tatws
  • 2 lwy fwrdd blawd corn
  • 300ml llaeth
  • 300ml stoc
  • 1 cenhinen
  • 100ml hufen dwbl
  • 100ml gwin gwyn
  • persli

Dull

  1. Toddwch y menyn mewn sosban fawr a ffriwch y winwns, seleri a bacwn efo'r ddeilen llawryf a theim am 5 munud, neu nes i bopeth meddalu.
  2. Torrwch y tatws mewn i giwbiau a rhowch yn y sosban gyda'r llysiau.
  3. Ychwanegwch y stoc a mudferwch. Coginiwch am 15 munud, neu nes i'r tatws feddalu.
  4. Gosodwch y pysgod mewn y chowder yn sicrhau mae'r pysgod o dan yr arwyneb, potsiwch nes mae wedi coginio, dylai hyn gymryd tua 5 munud, yna tynnwch allan y pysgod.
  5. Ychwanegwch y cennin, hufen a gwin i'r swp. Mudferwch eto am 3 munud.
  6. Gwiriwch nid oes esgyrn yn y pysgod. Gosodwch y pysgod nol yn y Chowder, cynheswch trwyddo yna gwaenwch gyda bara ffres a phersli.

Rysáit gan Lisa Fearn, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Instagram: @lisafearncooks

Twitter: @lisaannefearn

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?