S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Beca Lyne-Pirkis

    Beca Lyne-Pirkis

    calendar Dydd Gwener, 02 Rhagfyr 2016

  • Powlen smoothie

    Powlen Smoothie

    Cynhwysion

    • ½ avocado
    • 2 banana
    • 150g mafon wedi rhewi
    • 2 ½ llond llaw o sbigoglys ffres
    • 485ml llaeth almwnau (heb siwgr)

    I'w gweini

    • almwnau wedi tostio
    • llond llaw o lus a mafon
    • 2 llwy de o hadau chia
    • 1 llwy de yr un o hadau blodyn yr haul a phwmpen

    Dull

    1. Rhowch holl gynhwysion y smoothie mewn blender nes yn llyfn.
    2. Ychwanegwch ychydig mwy o laeth almwnau os yw'r cymysgedd yn rhy drwchus.
    3. Tostiwch y cnau mewn padell sych nes eu bod nhw'n euraidd, ac yna eu torri yn fras.
    4. Rhannwch y smoothie rhwng dwy fowlen, a'i addurno gyda'r cnau wedi tostio, ffrwythau ffres, llwy de o hadau chia a llwy de yr un o'r hadau blodau'r haul a phwmpen.
    5. Bydd rhaid ei gweini yn syth. Mae'n well gwneud y smoothie yn ffres a'i fwyta'n syth.

    Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Parti Bwyd Beca.

    Rysáit gan Beca Lyne-Pirkis.

    Mwy o fwyd fegan:

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?