*mae'n bosib creu fersiwn fegan gan beidio cynnwys wyau.
Dull
Mewn sosban, berwch ychydig o ddŵr ac ychwanegwch 4 wy a'i fudferwi am 7 munud.
Ar ôl yr amser yma, tynnwch yr wyau allan a'i rhoi mewn powlen o ddŵr gyda rhew ynddo. Unwaith maen nhw wedi oeri, pliciwch a'u cadw'n gyfan nes yn barod i'w gweini.
Ail lenwch y sosban gyda dŵr ffres i'r nwdls.
Sleisiwch 4 ewin garlleg, gratiwch 1 modfedd o sinsir ffres a'i rhoi mewn sosban dros wres canolig-uchel gyda 1 llwy fwrdd yr un o olew sesame a rapeseed.
Coginiwch am 1 munud cyn ychwanegu 1 litr o stoc, 3 llwy fwrdd o saws soy a 1 llwy fwrdd o mirin.
Tynnwch y coesau oddi ar 225g o fadarch shiitake a'u sleisio yn denau.
Golchwch a sleisiwch 400g o lysiau gwyrdd.
Torrwch ½ yr un o bupur coch a melyn a 3 shibwns yn fân.
Rhowch y madarch yn y stoc a'u coginio am 5 munud.
Ychwanegwch y pupur, shibwns a'r llysiau gwyrdd a'u coginio am 1 munud.
Cynheswch ddŵr mewn sosban a choginiwch 450g o nwdls ramen am 2-3 munud.
I'w weini, rhowch y nwdls mewn powlen gyda'r llysiau ar eu pen.
Torrwch yr wyau yn ei hanner i'w gosod ar y top gyda'r rhuddygl, sinsir wedi piclo, chillis a'r hadau sesame.
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Parti Bwyd Beca.