30g menyn heb halen (mae'n bosib swapio am fenyn fegan os nad ydych am ddefnyddio llaeth)
1 llwy fwrdd o hadau cumin
1 llwy fwrdd o hadau mwstard du
1 nionyn bach
3-4 ewin garlleg
1-2 chillis gwyrdd ffres
1 ½ llwy de o garam masala
½ llwy de o goriander
tamaid bach o sinsir ffres wedi gratio
3 tomato
coriander ffres
Dull
Rhowch 400g o lentils coch mewn sosban a'i gorchuddio gyda digon o ddŵr oer sy'n cyrraedd 2 fodfedd uwch eu pennau.
Dewch a nhw i bwynt berwi cyn eu mudferwi. Cymysgwch 1 llwy fwrdd o turmeric a 30g o fenyn i mewn.
Gorchuddiwch a choginiwch gan droi'r cymysgedd bob hyn a hyn (20 munud)
Mewn padell ffrio fach, ffriwch 1 llwy fwrdd o cumin a 1 llwy fwrdd o hadau mwstard yn sych dros wres canolig. Tynnwch o'r badell a'u gadael ar un ochr.
Toddwch weddill y menyn (10g) mewn padell ffrio arall a rhostiwch 3-4 ewin garlleg, 1 nionyn, 1-2 chilli gwyrdd ffres, tamaid o sinsir ffres a 3 tomato.
Pan mae'r llysiau yn feddal, ychwanegwch yr hadau wedi tostio gyda 1 ½ llwy de o garam masala a ½ llwy de o goriander wedi ei falu'n fân. Tynnwch oddi ar y gwres.
Unwaith mae'r lentils wedi coginio am 20 munud, rhowch droad da iddyn nhw – rydych chi'n chwilio am gymysgedd trwchus. Gallwch ychwanegu mwy o ddŵr os oes angen.
Ychwanegwch y llysiau wedi ffrio a'r sbeis, cymysgwch popeth ac ychwanegwch halen os oes angen.
Gallwch weini'r cyri gydag ychydig o goriander ar ei ben. Mae'n lyfli gyda reis ac ychydig o chapatis.
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Parti Bwyd Beca.