Gadewch y madarch porcini i socian nes yn feddal - tua 20 munud.
Gwasgwch y dŵr sy'n weddill allan o'r madarch a'u torri'n fras.
Rhowch y madarch castan mewn prosesydd bwyd gyda'r winwnsyn, garlleg a'r madarch porcini.
Blitsiwch nes bod popeth wedi'u malu'n fan.
Ffrïwch y gymysgedd mewn ychydig o olew gyda halen am 5-8 munud. Gadewch i oeri.
Rhowch y ffa du, y briwsion bara, y sesnad stêc, y persli, y reis a'r gymysgedd madarch a winwns wedi coginio mewn prosesydd bwyd nes bod popeth wedi cyfuno yn dda.
Ychwanegwch fwy o sesnad os dymunwch cyn ei rannu yn 6 darn.
Siapiwch i ffurfio byrgyrs a'u gosod ar blât wedi'i iro a'u gorchuddio gyda cling film.
Rhowch yn yr oergell am 30 munud.
Coginiwch y byrgyrs mewn padell ffrio gydag olew rapeseed dros wres canolig.
Trowch i ddatblygu lliw cyfartal.
I'w gweini yn boeth mewn focaccia gyda'r saws pupur coch wedi rhostio, letys, winwnsyn coch ac afocado.
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Parti Bwyd Beca.