S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Beca Lyne-Pirkis

    Beca Lyne-Pirkis

    calendar Dydd Mawrth, 15 Mehefin 2021

  • Cacen siocled fegan

    Cynhwysion

    Y gacen:

    • 175g siwgr brown golau
    • 3 llwy fwrdd o surop masarn
    • 150ml o olew llysiau
    • 300ml llaeth cnau almwn heb ei felysu
    • ¾ llwy de o flas fanila
    • 250g blawd codi
    • 25g cnau almwn man
    • 3 llwy fwrdd o bowdwr coco
    • 1 llwy de o soda bicarbonad

    Hufen:

    • 2 afocados hass aeddfed
    • 5-6 llwy fwrdd o bowdwr coco
    • 5-6 llwy fwrdd o surop masarn
    • 1 bar o siocled heb gynnyrch llaeth

    Dull

    1. Cynheswch y ffwrn i 160ºC Fan.
    2. Irwch a leiniwch 2 dun cylch o faint 17cm neu 7 modfedd.
    3. Chwipiwch y siwgr, y surop, yr olew, y llaeth a'r fanila.
    4. Hidlwch y cynhwysion sych i mewn i'r gymysgedd hylif a chwipiwch nes yn esmwyth.
    5. Rhannwch rhwng y 2 dun a'u pobi ar y silff canol am 25 munud neu nes bod sgiwyr yn dod allan yn lan. Gadewch i oeri yn gyfangwbl.
    6. I wneud yr hufen siocled, rhowch yr holl gynhwysion heblaw am y siocled mewn prosesydd bwyd a'u cyfuno nes yn esmwyth.
    7. Ychwanegwch fwy o surop os oes angen.
    8. Taenwch hanner yr hufen ar un o'r cacennau a'u gosod un ar ben y llall.
    9. Taenwch weddill yr hufen ar y top.
    10. Gratiwch siocled i addurno'r gacen. I'w weini yn syth, neu cadwch yn yr oergell a'i fwyta o fewn 2-3 diwrnod.

    Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Parti Bwyd Beca.

    Rysáit gan Beca Lyne-Pirkis

    Mwy o ryseitiau feganaidd:

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?