S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Beca Lyne-Pirkis

    Beca Lyne-Pirkis

    calendar Dydd Mercher, 06 Rhagfyr 2017

  • Salad Asiaidd

    Salad Asiaidd

    Cynhwysion

    • 115g nwdls reis
    • 2 moron mawr
    • ¼ bresychen coch
    • 100g edamame/ffa soy
    • 50g egin ffa
    • 1 pupur coch
    • 2 shibwns, wedi'i sleisio'n denau
    • 1-2 llwy fwrdd o olew sesame
    • cnau mwnci (heb ei halltu) wedi tostio
    • bwnsied bach o goriander a mintys
    • 1 chilli coch
    • ½ leim wedi torri yn ddarnau

    Dresin

    • 3 llwy fwrdd o fenyn cnau mwnci
    • 2 llwy fwrdd o finegr reis
    • 1 llwy fwrdd o saws soy
    • ¾ llwy fwrdd o siwgr brown neu surop masarn
    • tamaid o sinsir ffres
    • gwasgiad o leim

    Dull

    1. Gadewch y nwdls i socian mewn dŵr berwedig am 5 munud nes yn feddal.
    2. Draeniwch a'u cadw wedi eu gorchuddio mewn dŵr oer - mi fydd hyn yn eu stopio rhag sticio at ei gilydd.
    3. Pliciwch y moron a'u torri yn rhubanau cyn eu gosod mewn powlen fawr. Torrwch y fresychen yn fan a'i ychwanegu at y moron gyda'r edamame.
    4. Sleisiwch y pupur coch yn denau cyn ychwanegu at weddill y llysiau gyda'r egin ffa a'r nwdls.
    5. Arllwyswch olew sesame dros y cyfan a'u cymysgu yn dda.
    6. Rhowch gynhwysion y dresin mewn prosesydd bwyd neu mewn jar, ac ysgwydwch nes bod popeth wedi cyfuno yn dda.
    7. Addaswch y sesnad os oes angen gan ychwanegu fwy o leim, siwgr, surop neu saws soy.
    8. I'w weini, rhannwch y llysiau a'r nwdls rhwng 2 bowlen ac arllwyswch y dresin dros y top.
    9. Gorffennwch trwy ychwanegu'r shibwns, y chillis, y cnau mwnci, y coriander a'r mintys ar ben y cyfan a'i weini gyda sleis o leim.

    Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Parti Bwyd Beca.

    Rysáit gan Beca Lyne-Pirkis.

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?