S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Beca Lyne-Pirkis

    Beca Lyne-Pirkis

    calendar Dydd Mercher, 20 Rhagfyr 2017

  • Grefi, moron a sbrowts

    Grefi, Moron a Sbrowts

    Cynhwysion

    • browning grefi
    • blawd plaen
    • dŵr yn weddill ar ôl coginio'r llysiau
    • gwin coch
    • 3 moron mawr
    • 200g sbrowts
    • bacwn wedi'i fygu

    Dull

    1. Ar gyfer y grefi, defnyddiwch y sudd sy'n weddill ar ôl coginio'r cig eidion wedi ei dewhau gyda'r blawd.
    2. Defnyddiwch y dŵr sy'n weddill ar ôl coginio'r llysiau gyda'r browning grefi os nad oes digon o liw arno.
    3. Ychwanegwch ychydig o win coch.
    4. Blaswch a'i sesno os oes angen gyda halen a phupur.
    5. Cadwch yn gynnes nes yn barod i'w weini.
    6. Ar gyfer y moron, pliciwch a'u torri yn fatonau.
    7. Berwch mewn dŵr hallt.
    8. Cadwch y dŵr ar gyfer y grefi.
    9. Ar gyfer y sbrowts, torrwch yn chwarteri a'u gosod mewn dŵr hallt am ychydig funudau.
    10. Draeniwch a chadwch y dŵr ar gyfer y grefi.
    11. Ffriwch y bacwn cyn ychwanegu'r sbrowts.
    12. I'w gweini yn syth, neu cadwch yn gynnes nes yn barod i'w gweini.

    Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Parti Dolig Beca.

    Rysáit gan Beca Lyne-Pirkis

    Ar gyfer Cinio Rhost:

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?