S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Beca Lyne-Pirkis

    Beca Lyne-Pirkis

    calendar Dydd Mercher, 14 Rhagfyr 2016

  • Cebabs kofta

    Kebabs Kofta

    Cynhwysion

    • 500g mins cig oen
    • ½ nionyn
    • 3 ewin garlleg
    • 1 llwy de o halen
    • ychydig o sinsir ffres
    • ychydig o bersli ffres
    • bwnsied bach o fintys
    • 1 ½ llwy de o goriander a cumin
    • ¾ llwy de o sinamon
    • ½ llwy de o bupur cayenne
    • ychydig o bupur du
    • 30 skewers bambw wedi eu socian mewn dwr am o leiaf 30 munud

    Dull

    1. Rhowch ½ nionyn, 3 ewin garlleg, ychydig o sinsir ffres, bwnsied o bersli a mintys, halen a phupur mewn prosesydd bwyd – gan ychwanegu ychydig o olew i helpu cymysgu popeth gyda'i gilydd.
    2. Unwaith mae popeth wedi cymysgu yn dda, ychwanegwch y gymysgedd at 500g o fins cig oen gyda'r sbeis (1 ½ llwy de yr un o goriander a cumin, ¾ llwy de o sinamon a ½ llwy de o bupur cayenne) mewn powlen fawr a'u cymysgu gyda'ch dwylo.
    3. Rhannwch y gymysgedd mewn i 30 pelen a ffurfiwch bob pelen o gwmpas skewer.
    4. Gosodwch y kebabs ar dun pobi wedi ei iro, a'i orchuddio cyn ei roi yn yr oergell am o leiaf 30 munud, neu dros nos.
    5. Cynheswch y barbeciw neu gril i dymheredd canolig a'i iro ychydig.
    6. Coginiwch y kebabs, gan droi bob hyn a hyn – tua 6 munud.
    7. Bwytwch yn gynnes.

    Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Parti Bwyd Beca.

    Rysáit gan Beca Lyne-Pirkis.

    Cig, cig, cig:

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?