S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Beca Lyne-Pirkis

    Beca Lyne-Pirkis

    calendar Dydd Gwener, 06 Ionawr 2017

  • Pwdin reis cnau coco gyda mango

    Pwdin Reis Cnau Coco Gyda Mango

    Cynhwysion

    • 55g pwdin reis
    • 350ml llaeth cnau coco
    • croen 1 leim
    • 3 pod cardamom
    • 1 llwy fwrdd o siwgr brown golau
    • 1 llwy de o fanila
    • 110ml hufen sengl

    I'w gweini

    • passion fruit
    • ½ mango wedi ei sleisio
    • leim
    • 2 llwy de o siwgr brown

    Dull

    1. Rhowch 55g o reis, 350ml o laeth cnau coco, croen 1 leim, 3 pod cardamom, 1 llwy fwrdd o siwgr brown golau ac 1 llwy de o fanila mewn sosban dros wres canolig. Gadewch i'r gymysgedd ferwi.
    2. Trowch y gwres yn is a'i adael i goginio am 1 awr wedi ei orchuddio (trowch y gymysgedd bob hyn a hyn)
    3. Pan mae'r reis wedi coginio, tynnwch oddi ar y gwres a'i adael i oeri gyda'r caead ymlaen.
    4. Pan mae'r gymysgedd yn oer, rhowch 110ml o hufen sengl i mewn.
    5. Arllwyswch i mewn i bowlenni a rhowch ychydig o fango a'r passion fruit ar y top gyda siwgr brown a sleis o leim ar yr ochr.

    Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Parti Bwyd Beca.

    Rysáit gan Beca Lyne-Pirkis.

    Ryseitiau â ffrwythau:

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?