S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Beca Lyne-Pirkis

    Beca Lyne-Pirkis

    calendar Dydd Llun, 19 Rhagfyr 2016

  • Bara pita

    Bara Pita

    Cynhwysion

    • 500g blawd bara gwyn cryf
    • 7g burum
    • 10g halen
    • 330ml dwr cynnes
    • 2 llwy fwrdd o olew olewydd

    Dull

    1. Rhowch 500g o flawd bara gwyn cryf mewn bowlen fawr ac ychwanegwch 7g o furum a 10g o halen ar ochrau gwahanol ac yna trowch gyda'ch llaw.
    2. Ychwanegwch 330ml o ddŵr cynnes a 2 llwy fwrdd o olew i ddod a'r cymysgedd at ei gilydd mewn pelen.
    3. Trowch y toes allan ar fwrdd a'i weithio nes yn esmwyth a'n elastig (rhwng 5-8 munud)
    4. Rhowch y toes yn ôl yn y fowlen, gorchuddiwch a'i adael i ddyblu mewn seis (o leiaf awr)
    5. Ar ôl yr amser yma, gorchuddiwch eich bwrdd gydag ychydig o flawd a throwch y toes allan o'r fowlen.
    6. Rhannwch mewn i 8 darn.
    7. Rholiwch y toes allan mewn i gylchoedd fflat tua 1cm o drwch.
    8. Gallwch goginio'r pitas ar badell boeth neu mewn popty.
    9. Mae'r pitas wedi coginio pan maen nhw'n frown ac wedi chwyddo.
    10. Unwaith maen nhw wedi coginio, gallwch eu cadw'n gynnes o dan liain damp – mae hyn yn cadw'r pitas yn feddal.

    Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Parti Bwyd Beca.

    Rysáit gan Beca Lyne-Pirkis.

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?