Rhowch y badell dros wres canolig gyda digon o olew olewydd ynddo. Ychwanegwch 225g o chorizo a'i droi am 2-3 munud cyn ei dynnu gyda llwy â thyllau ynddo.
Nesaf, rhowch halen a phupur ar y cluniau cyw iâr cyn eu coginio yn yr olew am 3-5 munud.
Tra bod y cyw iâr yn coginio, rhowch 250g o domatos a 6 ewin garlleg mewn prosesydd bwyd.
Ar ôl i'r cyw iâr goginio am 3-5 munud, ychwanegwch 100ml o sherry a'i adael i ffrwtian am funud cyn ychwanegu'r tomatos a'r garlleg gyda llwyaid o baprika.
Gadewch i fudferwi am 10-15 munud, neu nes bod y saws wedi mynd yn drwchus.
Ar ôl yr amser yma, gallwch roi'r chorizo yn ôl mewn i'r badell gyda 1 pupur coch, 150g o ffa gwyrdd, 300g o reis, 700ml o stoc cyw iâr ac 1 llwy de o saffron.
Cymysgwch popeth cyn ei adael i fudferwi dros wres isel i ganolig am 20 munud, nes bod y reis wedi coginio.
Yna, ychwanegwch 450g o gregyn gleision ar y top. Gorchuddiwch gyda thamaid o bapur gwrth-saim. Glychwch y papur a'i osod dros y badell cyn rhoi foil ar y top i adael i'r cregyn gleision stemio. Bydd hyn yn cymryd tua 5-7 munud.
Mae'r cregyn gleision wedi coginio unwaith maen nhw wedi agor. Lluchiwch y rhai sydd heb agor.
I'w weini, rhowch y badell ar ganol y bwrdd, rhowch sleisys o lemwn unrhyw le sy'n bosib a rhowch digon o bersli ar y top!
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Parti Bwyd Beca.