S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Beca Lyne-Pirkis

    Beca Lyne-Pirkis

    calendar Dydd Mercher, 22 Tachwedd 2017

  • Tacos tshili ac wylys

    Tacos a Chilli Aubergine

    Cynhwysion

    • 2 aubergine
    • 2 llwy fwrdd o olew rapeseed
    • 1 winwnsyn
    • 1 moron
    • 1 pupur gwyrdd
    • 3-4 ewyn garlleg
    • 1 tun o ffa du
    • 1 tun o domatos
    • 2-3 llwy fwrdd o buree tomato
    • 55g o ffacbys coch
    • 20g madarch porcini sych
    • 1 chilli ffres coch
    • ½ - 1 llwy de o bowdwr chilli
    • 2 llwy de o oregano sych
    • 3 llwy de o cumin mâl
    • 2-3 llwy de o paprika wedi'i fygu
    • 2 llwy de o goriander mâl
    • 1 darn o sinamon
    • 1 neu 2 ddarn o siocled tywyll
    • 600ml o sdoc llysiau neu ddŵr
    • halen a phupur i sesno

    I'w gweini

    • tacos meddal - 1 neu 2 i bob person
    • letys wedi rhwygo
    • caws cheddar wedi gratio
    • hufen sur
    • chilli ffres
    • shibwns
    • 1 afocado
    • sudd leim

    Dull

    1. I gychwyn, llosgwch yr aubergines trwy ddefnyddio'ch hob nwy, neu rhowch o dan y gril.
    2. Fe ddefnyddiais rac oeri dros yr hob a rhoi'r aubergines yn syth i mewn i'r fflam nes eu bod nhw wedi eu lliwio.
    3. Gadewch i oeri.
    4. Rhowch y madarch porcini sych mewn dŵr am tua 20 munud nes yn feddal.
    5. Torrwch y winwns yn fras, y pupur a'r moron yn fach a'u gosod mewn sosban gyda'r olew rapeseed.
    6. Gadewch i chwysu am 5-8 munud.
    7. Fe allwch chi losgi'r pupur gwyrdd os dymunwch cyn eu hychwanegu at y winwnsyn a'r moron.
    8. Nesaf, ychwanegwch y sbeisys i gyd heblaw am y chilli ffres gyda'r puree tomato a'u coginio am ychydig funudau.
    9. Torrwch y garlleg a'r chilli a'u hychwanegu i'r sosban gyda'r ffacbys coch.
    10. Trowch bopeth.
    11. Torrwch y madarch porcini, a'u hychwanegu i'r sosban gyda'r dŵr a'r ffa du.
    12. Rhowch y tomatos a'r siocled i mewn a throwch y gymysgedd cyn ei adael i fudferwi am 15 munud.
    13. Torrwch yr aubergines yn ddarnau eithaf mawr, ac ychwanegwch y chilli.
    14. Peidiwch a'i droi yn rhy galed, mae eisiau i'r aubergines aros yn ddarnau mawr.
    15. Rhowch y chilli ar un o'r tacos gyda letys, afocado mal, sudd leim, halen, ychydig o hufen sur, caws wedi gratio, shibwns a'r chilli ffres.

    Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Parti Bwyd Beca.

    Rysáit gan Beca Lyne-Pirkis.

    Mwy o ryseitiau llysieuol:

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?