S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Richard Holt

    Richard Holt

    calendar Dydd Sadwrn, 04 Rhagfyr 2021

  • Bakewell ceirios a taragon

    Cynhwysion

    Frangipane:

    • 100g menyn meddal
    • 100g siwgr caster
    • 2 wyau
    • 100g almonau Mân
    • 30g tarragon wedi ei dorri'n fân

    Mousse fanila:

    • 100g siwgr
    • 100g hufen wedi ei ferwi
    • 300g mascarpone
    • 425g hufen chwipio
    • 2 dail gelatine

    Glaze:

    • 195g dŵr
    • 300g siwgr
    • 300g glwcos
    • 215g llaeth tewychedig
    • 25g gelatine
    • 325g siocled gwyn

    Llenwad:

    • 200g puree ceirios
    • 200g ceirios wedi torri'n fân
    • 30g tarragon wedi ei dorri'n fân

    Dull

    Cam 1 - Gwneud pastry siocled yn union fel dw i'n gwneud ar gyfer y Môn Blanc

    Cam 2 - Gwneud y llenwad frangipane

    1. Rhostio almonau man nes yn euraidd. Bydd hyn yn rhoi blas almonau cyfoethog trwy'r bakewell. Gadewch i oeri.
    2. Cymysgwch fenyn a siwgr gyda'i gilydd ar gyflymder araf (gwnewch yn siŵr bod y menyn ar dymheredd ystafell cyn ei ddefnyddio) Peidiwch a gor chwipio'r gymysgedd yma neu bydd yn gwahanu unwaith i chi ychwanegu'r wyau.
    3. Ychwanegwch wyau, un ar y tro.
    4. Ychwanegwch yr almonau wedi rhostio i'r gymysgedd.
    5. Ychwanegwch binsiad o halen.
    6. Ychwanegwch tarragon wedi ei dorri'n fan i'r gymysgedd.
    7. Gadewch i orffwys ar dymheredd ystafell.

    Cam 3 - Pobwch y darten frangipane

    1. Llenwch waelod y darten wag hefo haen denau o jam plwm a mafon.
    2. Yna, mewn hefo'r cymysgedd frangipane a'i lyfnhau efo cyllell paled fach.
    3. Pobwch ar dymheredd o 160 gradd nes bod o'n euraidd a 'di pobi yn y canol.
    4. Gadewch i oeri.

    Cam 4 - Paratoi'r canol ceirios

    1. Tynnwch y cerrig o 1kg o geirios
    2. Blendiwch hanner ohonyn nhw a phasio'r piwrî mân trwy sieve.
    3. Torrwch yr hanner arall i mewn i chwarteri a chyfuno hefo'r piwrî.
    4. Ychwanegwch lond llaw o tarragon wedi ei falu'n fan i wella blas y ceirios.
    5. Rhewch y gymysgedd mewn mowld hanner sffêr.

    Cam 5 - Gwnewch y mousse fanila mascarpone

    1. Berwch yr hufen a'r siwgr gyda'u gilydd
    2. Ychwanegwch 'setting agent'
    3. Arllwys mascarpone drosto a'i gymysgu'n dda.
    4. Gadewch i oeri dros nos.
    5. Cam 6 - Chwipio'r mousse
    6. Chwipiwch y mousse mascarpone nes yn gadarn ond yn esmwyth.
    7. Peipiwch y mousse mewn i fowld hanner sffêr (ychydig yn fwy na'r un ar gyfer y ceirios) ac yna gosod y canol ceirios i mewn.

    Gadewch i rewi.

    Cam 7 - Gwnewch y glaze

    1. Berwch ddŵr, siwgr a glwcos i 103 gradd selsiws.
    2. Arllwyswch dros siocled gwyn ac ychwanegu'r setting agent.
    3. Yn olaf, ychwanegwch condensed milk a'i flendio yn dda.
    4. Gadewch i oeri at 32 gradd selsiws cyn ei ddefnyddio.

    Cam 8 - Gosod gyda'i gilydd

    1. Rhowch glaze coch ar ben yr hanner sffêr.
    2. Gosodwch ar ben y frangipane yn ofalus.
    3. Gwnewch meringue Eidalaidd trwy ferwi siwgr a dŵr ar dymheredd o 121 gradd selsiws. Arllwyswch dros wyn wy tra'n ei chwipio.
    4. Chwipiwch i greu pigau stiff a'i beipio o amgylch y gromen.
    5. Gorffennwch gyda deilen aur.

    Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Richard Holt: Yr Academi Felys.

    Rysáit gan Richard Holt.

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?