S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Porc rhacs Asiaidd

Cynhwysion

  • 5 llwy fwrdd saws soy
  • 4 llwy fwrdd powdr tsili
  • 3 llwy fwrdd powdr 5 sbeis
  • 2 lwy fwrdd siwgr muscovado
  • 2 clof garlleg
  • darn 4cm sinsir ffres
  • 3kg ysgwydd porc

Slaw sbeislyd:

  • 3 llwy fwrdd olew sesame
  • 2 lwy fwrdd saws soy
  • ½ bresychen
  • 1 winwnsyn coch
  • 1 moron
  • 2 tsili coch
  • dyrnaid dail coriander
  • pupur du

Dull

  1. Gosodwch y saws soy, powdr tsili, 5 sbeis, siwgr, garlleg a sinsir mewn sosban drwm a chymysgwch yn dda i greu past.
  2. Gosodwch y porc mewn y pan yna efo'ch dwylo, rwbiwch y cymysgedd sbeis mewn i'r cig.
  3. Rhowch y clawr ymlaen a choginiwch ar dymheredd isel am 4-5 awr nes mae'r cig yn dyner.
  4. Am y slaw: Cymysgwch yr olew sesame a saws soy at ei gilydd mewn bowlen fawr. Adiwch winwns, moron, tsili a coriander a chymysgwch yn dda. Ychwanegwch sesnin efo'r pupur. Unwaith mae'r porc yn barod, torrwch gyda fforc a gweinwch.
  5. I weini efo saws, mudferwch y sudd o'r cynhwysion mewn pan fawr am 10-15 munud nes iddo droi'n fwy trwchus. Ychwanegwch sesnin.

Rysáit gan Lisa Fearn, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Instagram: @lisafearncooks

Twitter: @lisaannefearn

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?