S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Elwen Roberts

    Elwen Roberts

    calendar Dydd Gwener, 15 Gorffenaf 2022

  • Sgons bacwn a chaws

    Cynhwysion

    • 450g blawd codi
    • 150g o fenyn, heb halen, torri'n giwbiau bach.
    • Pinsied o halen
    • ½ llwy de o bowdr cayenne
    • 8 tafell o facwn brith – wedi'i dorri'n fach
    • bwnsh bach o chives
    • 100g o gaws cryf cheddar
    • 50g o gaws parmesan wedi'i gratio
    • 1 ŵy bach wedi'i guro
    • tua 100ml o laeth

    Dull

    1. Cynhesu'r popty i 220°c | 200°c | Nwy 7
    2. Rhoi'r bacwn mewn padell ffrio a'i ffrio nes yn frown a crensiog. Ei roi ar bapur cegin i oeri.
    3. Hidlo'r blawd ac ychwanegu'r menyn a'r halen.
    4. Rhwbio'r menyn i mewn i'r blawd.
    5. Ychwanegu'r caws (cadw ychydig i ysgeintio ar yr wyneb), chives a'r powdr cayenne.
    6. Gwneud twll yn y canol ac ychwanegu'r wy wedi'i guro ac ychydig o'r llaeth. Defnyddio cyllell i droi'r cyfan a dod at ei gilydd fel toes. Defnyddio fwy o laeth os angen.
    7. Ysgeintio ychydig o flawd ar y bwrdd a rowlio neu wasgu'r gymysgfa i tua 4cm o drwch, torri allan cylchoedd gyda thorrwr sgon. Eu rhoi ar 'tray' pobi.
    8. Brwsio'r wyneb gydag ychydig o laeth ac ysgeintio gweddill y caws ar yr wyneb.
    9. Rhoi yn y popty am tua 15- 20 munud.

    Rysáit gan Elwen Roberts / Hybu Cig Cymru, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?