S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Elwen Roberts

    Elwen Roberts

    calendar Dydd Mawrth, 12 Gorffenaf 2022

  • Calzone cig eidion

    Cynhwysion

    • 300g o friwgig cig eidion Cymru PGI heb lawer o fraster
    • 1 pecyn o gymysgedd toes pizza, wedi ei wneud yn ôl y cynhwysion neu does pizza o'r siop neu gwnewch eich toes pizza eich hun. Bydd angen digon o does pizza arnoch i wneud 2 gylch 20cm
    • pupur a halen
    • 1 winwnsyn, wedi ei sleisio neu ei dorri
    • 1 pupur coch neu melyn, wedi ei dorri'n stribedi
    • 25g madarch
    • llond llaw o sbigoglys
    • llond llaw o domatos bychain, wedi eu haneru
    • 1 ewin garlleg, wedi ei falu
    • 2 lwy fwrdd purée tomato
    • 1 llwy fwrdd saws coch
    • 1 llwy de oregano sych
    • 75g caws cheddar, wedi ei ratio

    Dull

    1. Cynheswch y ffwrn i 220°C / 200°C ffan / Nwy 6.
    2. Ffriwch y mins cig eidion yn sych tan ei fod yn frown, gan ei adael yn dalpiau.
    3. Ychwanegwch y winwnsyn, y pupurau a'r madarch a'u ffrio'n ysgafn i'w meddalu.
    4. Ychwanegwch yr holl gynhwysion eraill heblaw am y caws. Cymysgwch y cyfan a gadewch y gymysgedd i oeri.
    5. Ar fwrdd â blawd, rholiwch y toes pizza allan yn 2 gylch tua 20cm yr un.
    6. Rhowch y cylchoedd toes pizza ar bapur pobi.
    7. Cymysgwch y caws i mewn i'r gymysgedd cig eidion. Hanerwch y gymysgedd cig eidion a'i rhoi ar hanner pob cylch toes pizza gyda llwy, gan adael 3cm o gwmpas yr ymyl.
    8. Gwlychwch yr ymylon gyda dŵr a phlygu'r toes pizza dros hanner y cylch i ffurfio'r calzone.
    9. Pwyswch i selio'r ymylon. Gan ddefnyddio eich bysedd, crimpiwch neu plygwch y toes i ffurfio patrwm o gwmpas ymyl y calzone.
    10. Codwch y calzone ar hambwrdd pobi yn ofalus a'i roi yn y ffwrn am ryw 20 munud tan fod y toes yn euraidd ac yn grimp.

    Rysáit gan Elwen Roberts / Hybu Cig Cymru, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?