S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Shashuka

Cynhwysion
(Digon i 1-2)

  • pecyn o feta
  • 1 llwy fwrdd o iogwrt
  • gwasgiad o fêl
  • llond llaw o sbinaets ifanc
  • halen a phupur
  • olew
  • puprod wedi'u rhostio mewn jar
  • 4 llwy fwrdd o passata
  • 1 llwy fwrdd o siwgr neu fêl
  • 1 llwy fwrdd o besto/past tomato heulsych
  • 2 wy
  • 2 lwy fwrdd o bersli wedi'u torri'n fân
  • 2 lwy fwrdd o sifys wedi'u torri'n fân

Dull

  1. Cynheswch y gril i wres uchel. Cymysgwch hanner y feta mewn cymysgydd bwyd gyda'r iogwrt nes eu bod yn llyfn fel caws hufennog y mae modd ei daenu. Yna gwasgwch ychydig o fêl i'r gymysgedd. Taenwch y cyfan ar hyd gwaelod ffreipan fach gyda chaead.
  2. Tynnwch y coesau oddi ar y sbinaets a gadael iddo wywo mewn ffreipan sych. Tynnwch y ffreipan oddi ar y gwres a'i ychwanegu at y feta llyfn gydag ychydig o halen a phupur. Cynheswch ychydig o olew (olew tsili os y'ch chi'n hoffi sbeis) yn yr un ffreipan a ddefnyddiwyd i wywo'r sbinaets. Yna ychwanegwch y puprod wedi'u rhostio, wedi eu torri, y passata a llond llwy fwrdd o siwgr neu fêl.
  3. Ychwanegwch y pesto neu'r past tomato heulsych ac ychydig o halen. Arllwyswch y cyfan dros y sbinaets a'r feta. Gwnewch ddau dwll bach ar y gwaelod a thorri 2 wy i mewn iddyn nhw. Rhowch gaead ar y ffreipan i bobi yr wyau am 2 funud neu nes bod yr wyau wedi coginio fel ydych chi'n dymuno, yna tynnwch y ddysgl allan a briwsioni'r mymryn o gaws feta sy'n weddill dros ben y cyfan.
  4. Addurnwch gyda phersli a sifys, pupur du, ychydig o fêl ac olew neu ddarnau tsili, os y'ch chi moyn.
  5. Mwynhewch y shashuka gyda digonedd o dost crensiog.

Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).

Llyfr Colleen: Bywyd a Bwyd / Enjoying Life through Food (Y Lolfa)

Instagram: @colleen_ramsey

Twitter: @_C_Ramsey

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?