S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Fajitas cyw iâr

Cynhwysion

  • 2 brest cyw iâr
  • 1 pupur coch
  • 1 winwns coch
  • 2 lwy de paprika wedi'i fygu
  • 2 lwy de coriander
  • ½ llwy de cwmin
  • 1 clof garlleg
  • sudd 1 leim
  • 2 lwy fwrdd olew olewydd

Salsa:

  • 6 tomato
  • ½ winwns
  • sudd 1 leim
  • perlysiau
  • 1 clof garlleg
  • 1 tsili coch
  • 1 llwy fwrdd olew olewydd

Guacamole:

  • 2 afocado
  • ½ winwns coch
  • sudd 1 leim
  • dyrnaid dail coriander
  • ychydig olew olewydd
  • 4 rap
  • 150ml hufen sur (sour cream)
  • 50g caws cheddar

Dull

  1. Gosodwch y marined yn y bowlen efo cyw iâr, pupurau a winwns.
  2. Gadwch am 10 munud.
  3. Yn y cyfamser, gwnewch y salsa drwy dorri'r cynhwysion i gyd yn fân, cymysgwch mewn bowlen efo'r sudd leim ac olew olewydd.
  4. Gosodwch i un ochr.
  5. Gosodwch y raps tortilla mewn darn o ffoil. Gosodwch mewn ffwrn ar dymheredd 160°c | Nwy 4 am 10 munud.
  6. Cynheswch y griddle nes yn boeth, ychwanegwch y cyw iâr a llysiau.
  7. Cadwch symud efo tongs am 10 munud nes mae'r cyw iâr wedi coginio trwyddo.
  8. I wneud y guacamole, torrwch yr afocado efo fforc, ychwanegwch sibols, halen + phupur, sudd leim ac olew olewydd. Cymysgwch yn drylwyr.
  9. Gweinwch ar blât mawr, y cyw iâr mewn un bowlen, tortillas cynnes allan o'r ffwrn, bowlen o salsa, guacamole, caws a hufen sur (sour cream).

Rysáit gan Catrin Thomas, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?